1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 28 Tachwedd 2018.
2. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag Adran Drafnidiaeth y DU am ddiwygiadau i'r Cod Priffyrdd? OAQ52992
Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn sylweddoli nad yw rheolau’r ffordd fawr wedi'u datganoli ac wrth gwrs, maent yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU. Ond mae fy swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd â swyddogion yr Adran Drafnidiaeth ar faterion diogelwch ar y ffyrdd a theithio llesol a’u bwriad yw gweithio gyda hwy wrth iddynt adolygu rheolau’r ffordd fawr.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ym mis Hydref y bydd yn adolygu canllawiau rheolau’r ffordd fawr ar sut y dylai defnyddwyr ffyrdd ymddwyn mewn perthynas â beicwyr a cherddwyr. A bydd yn tynnu sylw at beryglon pasio agos, ac yn annog pobl i fabwysiadu dull yr Iseldiroedd—dull o agor drws car gyda'r llaw sydd bellaf oddi wrth y llyw, i orfodi gyrwyr i edrych dros eu hysgwyddau am draffig sy’n pasio. Rwy'n credu bod y rhain yn ddatblygiadau sydd i’w croesawu’n fawr. Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu i dynnu sylw at y canllawiau hyn a fyddai'n hawdd eu mabwysiadu yn fy marn i, cyn belled â bod pobl yn gwybod amdanynt ac yn eu dilyn? A beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i godi ymwybyddiaeth o’r rhain ymhlith pobl yng Nghymru?
Rwy'n credu bod Julie Morgan yn codi pwynt pwysig iawn. Er fy mod yn ystyried fy hun yn feiciwr go gymwys, un o'r pethau rwy’n poeni amdanynt fwyaf pan fyddaf yn beicio mewn amgylchedd trefol, neu'n wir pan fyddaf yn rhedeg lle nad oes palmentydd, yw'r posibilrwydd y bydd rhywun yn agor drws car, yn enwedig pan fyddaf yn beicio. Ac mae'n rhywbeth sy'n peri pryder cyson. Nawr, os ydw i'n teimlo felly a minnau’n feiciwr cymwys, rwy'n dychmygu bod y pryder hyd yn oed yn fwy i ddechreuwr. Ac felly, mae'n rhaid imi ddweud bod nifer yr ymatebion i'r ymgynghoriad sydd ar y gweill wedi creu argraff fawr arnaf. Credaf fod mwy na 14,000 o ymatebion i'r ymgynghoriad, yn dilyn yr alwad am dystiolaeth gan yr Adran Drafnidiaeth, ac rwy’n credu bod yr hyn a elwir yn ddull yr Iseldiroedd o agor drws car wedi'i grybwyll gan nifer sylweddol o bobl. Buaswn yn awyddus i weld dull yr Iseldiroedd yn cael ei fabwysiadu yn rheolau’r ffordd fawr, ond rwyf hefyd yn awyddus i edrych ar feysydd eraill i wella diogelwch beicwyr ar y ffyrdd gan gynnwys, er enghraifft, Ymgyrch Snap sydd wedi'i rhoi ar waith gan heddluoedd Cymru. Hwy oedd y cyntaf i arloesi gyda dull newydd o brosesu recordiadau dashcam o yrru peryglus, sy'n cynnwys pasio peryglus, a'r hyn y mae'n eu galluogi i’w wneud drwy reolaeth ar sail Cymru gyfan yw cynghori gyrwyr pan nad ydynt yn gyrru'n ddiogel, a'u cosbi hefyd pan brofir eu bod yn gyrru'n anniogel neu lle nad ydynt yn talu sylw dyledus i feicwyr ar y ffyrdd.
Felly, rwy'n credu bod dull yr Iseldiroedd o agor drws car yn elfen arall, ac yn arf arall, os hoffech, ar gyfer gwella diogelwch ar y ffyrdd, yn enwedig i feicwyr. Ac o ystyried ein bod yn mynd i fuddsoddi symiau mwy nag erioed o’r blaen mewn teithio llesol gyda hyn, credaf y byddai ymyrraeth o’r fath drwy reolau’r ffordd fawr yn ategu ein hymyriadau ariannol a’n buddsoddiadau.
Ysgrifennydd y Cabinet, ceir pryderon y gallai cerbydau trydan achosi mwy o ddamweiniau ar ein ffyrdd oherwydd eu bod mor dawel. A ydych chi'n credu bod angen diwygio rheolau’r ffordd fawr yn hyn o beth?
Rwy'n credu y gallai fod angen diwygio, ac rwy'n credu bod gweithgynhyrchwyr eu hunain yn briodol iawn yn edrych am ffyrdd o wneud hynny, oherwydd y diffyg sŵn, wrth gwrs—ac mae llawer o gerddwyr, yn enwedig cerddwyr a fydd efallai'n defnyddio eu ffonau, yn amhriodol mae'n rhaid dweud, oherwydd dylai pawb ohonom roi sylw dyladwy i'r hyn sy'n digwydd o'n cwmpas pan fyddwn yn cerdded ar ochr y ffordd—. Mae gweithgynhyrchwyr o ddifrif ynglŷn â diffyg sŵn cerbydau trydan, a chan weithio drwy Fforwm Modurol Cymru, wrth i ni weld nifer o gerbydau trydan yn cael eu cyflwyno ar ffyrdd Cymru, rwy’n awyddus i sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno mewn ffordd sy'n gwneud yn siŵr fod cymaint â phosibl o ddiogelwch i deithwyr a cherddwyr, ac mae hynny’n cynnwys beicwyr wrth gwrs.