Diwygiadau i'r Cod Priffyrdd

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 28 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:38, 28 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu y gallai fod angen diwygio, ac rwy'n credu bod gweithgynhyrchwyr eu hunain yn briodol iawn yn edrych am ffyrdd o wneud hynny, oherwydd y diffyg sŵn, wrth gwrs—ac mae llawer o gerddwyr, yn enwedig cerddwyr a fydd efallai'n defnyddio eu ffonau, yn amhriodol mae'n rhaid dweud, oherwydd dylai pawb ohonom roi sylw dyladwy i'r hyn sy'n digwydd o'n cwmpas pan fyddwn yn cerdded ar ochr y ffordd—. Mae gweithgynhyrchwyr o ddifrif ynglŷn â diffyg sŵn cerbydau trydan, a chan weithio drwy Fforwm Modurol Cymru, wrth i ni weld nifer o gerbydau trydan yn cael eu cyflwyno ar ffyrdd Cymru, rwy’n awyddus i sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno mewn ffordd sy'n gwneud yn siŵr fod cymaint â phosibl o ddiogelwch i deithwyr a cherddwyr, ac mae hynny’n cynnwys beicwyr wrth gwrs.