Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 28 Tachwedd 2018.
Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, teimlaf efallai fy mod yn adleisio rhai o'ch teimladau chi yno, ond Ysgrifennydd y Cabinet, onid yw'n bryd tawelu eich beirniaid a nodi bod dod ag Aston Martin i Gymru yn agor y posibilrwydd o ddenu enwau eiconig a chwmnïau proffil uchel eraill i fuddsoddi yng Nghymru? Mae'r rhain yn gwmnïau a all helpu i ddod â swyddi o ansawdd a chyfoeth hirdymor i'r wlad. Yn nes ymlaen heddiw, byddwn yn trafod adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar werthu Cymru i'r byd. Pa ffordd well sydd yna o atgyfnerthu enw da Cymru fel gwlad flaengar na chael cwmni o'r fath fri yn lleoli yma? Felly, a wnewch chi gymryd fy nghyngor, Weinidog y Cabinet, sef yn syml iawn, cyhoedder ac i gythraul?