Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 28 Tachwedd 2018.
Unwaith eto, oherwydd yr angen i gynnal cyfrinachedd buddsoddwyr, a phe na baem yn gallu defnyddio cytundebau peidio â datgelu neu gymalau cyfrinachedd, byddem o bosibl yn colli cyfleoedd buddsoddi, ac mae'n dra phosibl na fyddem wedi gallu denu Aston Martin, a oedd—. Mae bri anhygoel i Aston Martin, ac o ganlyniad i'r ffaith ein bod wedi gallu sicrhau'r cyfleuster gweithgynhyrchu newydd yng Nghymru gyda DBX a Lagondas, rydym wedi gallu gwella ein henw da ymhellach fel canolfan ragoriaeth fyd-eang yn y diwydiant modurol, ac mae hynny, yn ei dro, ar yr adeg hynod anodd hon, yn bwysig iawn er mwyn cadw'r rhagolygon gorau posibl ar gyfer cyfleusterau eraill, er enghraifft, yn Ford a Toyota. Felly, nid ydym yn ymddiheuro am weithio mor agos â phosibl gyda busnesau ar ddenu cyfleoedd buddsoddi enfawr i Gymru a darparu gwaith amhrisiadwy i gannoedd ar gannoedd o weithwyr medrus yng Nghymru.