Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 28 Tachwedd 2018.
A gaf fi yn gyntaf ddiolch i'r Aelod, a holl lefarwyr y gwrthbleidiau, am fwy na dwy flynedd o her gyson a chadarn? Dyma'r sesiwn gwestiynau olaf cyn y caiff Llywodraeth newydd ei ffurfio, a gwn nad oes yr un o'r tri unigolyn a allai benderfynu fy nhynged yma heddiw. Rwy'n dychmygu na fyddai'r un ohonynt yn bradychu dim ar hyn o bryd, ond diolch ichi am eich cwestiynau ac am gynnig her mor rhagorol dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf.
Gallaf ddweud wrth yr Aelod mai'r rheswm pam fod yn rhaid inni gynnal cyfrinachedd buddsoddwyr yw er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i greu cynifer o swyddi uchel eu safon ag sy'n bosibl a'n bod yn gweithio gyda chwmnïau i ddatgelu cymaint o wybodaeth â phosibl am y gefnogaeth y gallwn ei chynnig iddynt, ond yn aml, oherwydd cyfrinachedd masnachol, nid ydym yn gallu datgelu pob manylyn.