Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 28 Tachwedd 2018.
Wel, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ateb braidd yn aneglur. Beth bynnag am bawb arall, fe ddywedaf fi fy mod yn gobeithio y byddwch yn aros yn eich swydd ar ôl yr wythnos nesaf, ond rwy'n siŵr y bydd llawer yn y tŷ hwn ac ymhellach i ffwrdd yng Nghymru yn dweud y byddai'n anodd rhoi pris ar ddenu gwneuthurwr ceir mor eiconig i Gymru. Efallai y buaswn yn mynd mor bell â dweud wrthych y gellid cyfiawnhau gwario crocbris ar gaffaeliad o'r fath. Felly, unwaith eto, rwy'n gofyn: pam yr amharodrwydd i roi'r ffigurau inni?