Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 28 Tachwedd 2018.
Diolch yn fawr.
Rwy'n siŵr nad oes angen i mi eich hysbysu ynglŷn â’r sefyllfa ar y rheilffyrdd yng Nghymru y bore yma, ond fe af drwy rai o’r problemau diweddaraf ar reilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Trenau Aberystwyth i Amwythig wedi’u canslo eto; Blaenau Ffestiniog i Landudno, gwasanaeth bysiau yn lle’r holl drenau; gwasanaethau Wrecsam Canolog i Bidston wedi’u heffeithio; tarfu ar wasanaethau Abertawe i Ddoc Penfro, ac Aberdaugleddau ac Abergwaun. llai o wasanaethau ar reilffyrdd y Cymoedd i Gaerdydd o hyd, ac yn y blaen. Nid yw'n dderbyniol. Y geiriau cyntaf yn y datganiad ar dudalen flaen gwefan rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru heddiw yw, 'Rydym yn ymddiheuro'. Nid ydym wedi clywed hynny gan y Llywodraeth o hyd. A hoffech chi fanteisio ar y cyfle i wneud hynny yn awr?