Y Cyflog Byw Go Iawn yn y Sector Preifat

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 28 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:01, 28 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn siŵr a yw'r Aelod wedi rhoi amser i ysgrifennu at gadeirydd neu brif weithredwr y maes awyr ynglŷn â'r mater hwn, a gwn fy mod wedi cynnig cyfle i'r Aelodau hefyd i gyfarfod â'r cadeirydd a'r prif weithredwr, ac fe wnaeth nifer o'r Aelodau y tu ôl i mi yn union hynny. Credaf ei bod yn rhagorol fod y maes awyr yn newid i fod yn gyflogwr cyflog byw go iawn erbyn dechrau'r flwyddyn ariannol nesaf. Credaf ei fod yn newid hanfodol i ddangos, unwaith eto, ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ein bod yn ceisio sbarduno graddau mwy o dwf cynhwysol. Nid wyf yn ymddiheuro am lwyddiant anhygoel y maes awyr. Fodd bynnag, credaf ei bod yn hollol gywir fod y llwyddiant hwnnw'n cael ei rannu'n fwy cyfartal ar draws y sylfaen gyflogaeth yn y maes awyr, ac felly rwy'n falch iawn ei fod yn newid i fod yn gyflogwr cyflog byw.