Y Cyflog Byw Go Iawn yn y Sector Preifat

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 28 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 2:00, 28 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennych chi rôl fawr yn yr hyn y mae'r sector cyhoeddus yn ei wneud. Mae'r maes awyr a brynodd y Llywodraeth hon bum mlynedd yn ôl yn dal i dalu llai na'r cyflog byw go iawn i bobl. Rydym yn sôn am oddeutu 100 neu fwy o staff diogelwch sydd â llawer iawn o gyfrifoldeb os ydynt yn mynd i wneud eu gwaith yn ddiwyd. A ydych yn teimlo cywilydd o'r ffaith nad yw'r aelodau hyn o staff yn mynd i gael y cyflog byw go iawn tan fis Ebrill 2019—chwe blynedd ar ôl i'ch Llywodraeth Lafur chi brynu'r maes awyr? Ac a allwch warantu pan gyflwynir y codiad cyflog hwn yn llawer hwyrach nag y dylai, y bydd Maes Awyr Caerdydd yn cael eu hardystio gan y Living Wage Foundation? Ymhellach, pa bryd y byddwch chi mewn sefyllfa i gyhoeddi bod yr holl weithwyr y mae'r Cynulliad hwn yn gyfrifol amdanynt—y rhai a gyflogir yn uniongyrchol, y rhai sy'n gweithio o dan gontract allanol, y rhai sy'n gweithio i gyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad—yn ennill y cyflog byw go iawn?