Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 28 Tachwedd 2018.
Mae Suzy Davies yn codi pwynt hynod bwysig, sef rôl y sector cyhoeddus yn sbarduno mwy o dwf cynhwysol yn ein heconomi. Rwyf wedi siarad gyda chydweithwyr ar draws y Llywodraeth ynglŷn â mabwysiadu'r contract economaidd a'i ymestyn i feysydd gwasanaeth eraill o weithgarwch Llywodraeth, ond hefyd i'r sector cyhoeddus, felly wrth inni ymestyn y contract economaidd, rwy'n gobeithio y byddwn yn cynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd o bosibl, cyrff a noddir yn genedlaethol a chyrff hyd braich cyrff yn rhan ohono fel bod cymaint o fusnesau â phosibl yn y gadwyn gyflenwi yn gallu cael cyfleoedd o'r sector cyhoeddus, lle mae'r sector cyhoeddus yn talu cyflog byw go iawn ac felly'n codi lefelau cyflog. Credaf ei bod yn hanfodol fod y neges a roddwn i'r sector preifat yn cyd-fynd â'r neges a roddwn i'r sector cyhoeddus. Ac felly mae defnyddio'r contract economaidd ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn rhywbeth y credaf y byddai'n ddymunol iawn.