Galluogi Cwmnïau i Barhau i Fod o dan Berchnogaeth Gymreig

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 28 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:06, 28 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Nid wyf o reidrwydd yn dadlau ein bod yn ei gwneud hi'n anos i werthu busnes. Fy mhryder yw'r agwedd tuag at dwf busnes, sy'n wahanol iawn yma yn y DU o gymharu ag economïau megis yr Almaen a Denmarc, lle y ceir agwedd ymhlith llawer o arweinwyr busnes a pherchnogion busnesau sy'n para dros genedlaethau, yn hytrach na phara dros gynlluniau pum mlynedd yn unig. Credaf mai'r hyn sy'n hanfodol yw bod busnesau'n cael y cymorth ariannol cywir a'r cymorth rheoli cywir er mwyn cynllunio ar gyfer olyniaeth. Dyna'n union y mae Busnes Cymru a'r banc datblygu rhyngddynt yn ceisio ei wneud.