1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 28 Tachwedd 2018.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i alluogi cwmnïau i barhau i fod o dan berchnogaeth Gymreig? OAQ52988
Mae Busnes Cymru yn gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid, gan gynnwys Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymdeithasol Cymru i gynorthwyo busnesau â chynllunio ar gyfer olyniaeth.
Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym yn gwybod mai un nodwedd o economi Cymru yw'r ffaith ei bod yn cynnwys nifer fach o gwmnïau angori mawr iawn a nifer fawr iawn o ficrofusnesau, ond bod y canol ar goll—rhy ychydig o gwmnïau canolig eu maint. Ac mae cwmnïau bach sy'n tueddu i dyfu yn aml yn gwerthu a'r berchnogaeth yn gadael Cymru. Yn Llanelli, rydym bellach yn gweld y gwahaniaeth rhwng cwmni lleol sydd wedi gwreiddio'n gadarn a chwmni byd-eang diwreiddiau, ac yn wir, y gwahaniaeth y gall rheolaeth sydd wedi gwreiddio'n lleol ei wneud. Nid yw penderfyniad gan gwmni teuluol Almaenig Schaeffler i gau ei ffatri yn Llanelli yn digwydd am y tro cyntaf. Fe geisiodd y teulu ei chau yn y 2000au cynnar, ond y pryd hwnnw ymladdodd y rheolwyr lleol, a oedd wedi ymrwymo i'r ardal, yn ôl a datblygu cynhyrchion newydd a achubodd y ffatri. Y tro hwn, nid oedd y rheolwyr lleol wedi'u gwreiddio yn yr ardal, ac rydym bellach yn gweld y canlyniadau, gyda 214 o deuluoedd y Nadolig hwn yn wynebu dyfodol ansicr. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â sut y mae Banc Datblygu Cymru yn bwriadu tyfu sylfaen o gwmnïau canolig eu maint yng Nghymru, a pha gamau y gellir eu cymryd i gefnogi'r gweithlu lleol yn Llanelli yn yr amgylchiadau presennol?
A gaf fi ddiolch i Lee Waters am ei gwestiwn? Roedd y cwmni y mae'r Aelod yn cyfeirio ato mewn cysylltiad â mi heddiw. Bûm yn siarad â rheolwr y ffatri ac rwy'n awyddus i siarad â'r prif swyddog gweithredol yn yr Almaen. Rwy'n credu bod gan Banc Datblygu Cymru rôl enfawr i'w chwarae yn sicrhau bod cynifer o'r canol coll, os mynnwch, yn aros yng Nghymru ac yn nwylo pobl Cymru—. Credaf fod llawer o bobl wedi dweud bod angen inni symud at fodel yr Almaen o gadw mentrau canolig, yn enwedig, yn nwylo Cymry.
Er y buaswn yn annog yr Aelodau i beidio â gwneud y camgymeriad y cawsom ein rhybuddio gan de Tocqueville yn ei gylch flynyddoedd maith yn ôl, sef na ddylech geisio trawsblannu diwylliant o un wlad mewn gwlad arall, yr hyn y dylem ei wneud yw edrych ar y gwahanol batrymau ymddygiad ac agweddau tuag at berchnogaeth fusnes, lle rwy'n ofni bod ymagwedd o 'werthu allan a throi cefn' wedi bod yn y DU pan fo busnes yn cyrraedd maint penodol, ond mewn gwledydd Ewropeaidd eraill megis yr Almaen, ceir ymagwedd o dwf hirdymor ac ymrwymiad hirdymor o fewn y teulu neu'r cwmni cydweithredol. Er na allwn drawsblannu agwedd a diwylliant o'r fath, yr hyn y gallwn ei wneud yw dysgu gan yr Almaenwyr ac eraill sut y gallwn gymhwyso mwy o gynllunio hirdymor ac ymrwymiad i'r busnesau y mae pobl yn teimlo mor angerddol yn eu cylch pan fyddant yn tyfu ond y byddant wedyn yn dymuno troi cefn arnynt wrth iddynt gyrraedd maint penodol.
Felly, mae Banc Datblygu Cymru yn mynd i fod yn elfen bwysig yn y broses ar gyfer sicrhau bod cymaint o fusnesau ag y bo modd yng Nghymru yn parhau i fod mewn dwylo Cymreig, ac eisoes—rwy'n falch o ddweud—ceir cronfa reoli olyniaeth o £15 miliwn. Mae hwn yn arian sydd wedi'i ddyrannu i'r banc gan Lywodraeth Cymru, ac ar hyn o bryd mae'r banc datblygu hefyd yn chwilio am £10 miliwn o gronfeydd pensiwn Cymru i chwyddo'r pot pensiwn hwnnw.
Ond mae'n rhaid dweud na all y banc datblygu ei hun ysgwyddo cyfrifoldeb am gynyddu nifer y busnesau yng Nghymru y mae eu pencadlys yn dal i fod yma; mae'n fater hefyd i'r Llywodraeth ei hun, a dyna pam y mae un o'r pum galwad i weithredu yn y cynllun gweithredu economaidd newydd yn ymwneud â sefydlu pencadlys busnesau yng Nghymru. A dyna pam y mae Busnes Cymru ei hun hefyd yn hyrwyddo'r gronfa ac yn sicrhau bod cymaint o fusnesau â phosibl a chymaint o arweinwyr busnes â phosibl yn gallu integreiddio cyllid a chymorth busnes er mwyn nodi a chefnogi cytundebau olyniaeth—lle bynnag a pha bryd bynnag y byddant yn gymwys.
Os gwnawn hi'n anos i bobl yng Nghymru werthu eu busnesau i bobl o'r tu allan i Gymru—neu 'werthu allan', fel y cyfeiriwyd ato rwy'n credu—onid oes perygl y byddai hynny, yn ei dro, yn atal pobl rhag adeiladu eu busnesau yng Nghymru yn y lle cyntaf?
Nid wyf o reidrwydd yn dadlau ein bod yn ei gwneud hi'n anos i werthu busnes. Fy mhryder yw'r agwedd tuag at dwf busnes, sy'n wahanol iawn yma yn y DU o gymharu ag economïau megis yr Almaen a Denmarc, lle y ceir agwedd ymhlith llawer o arweinwyr busnes a pherchnogion busnesau sy'n para dros genedlaethau, yn hytrach na phara dros gynlluniau pum mlynedd yn unig. Credaf mai'r hyn sy'n hanfodol yw bod busnesau'n cael y cymorth ariannol cywir a'r cymorth rheoli cywir er mwyn cynllunio ar gyfer olyniaeth. Dyna'n union y mae Busnes Cymru a'r banc datblygu rhyngddynt yn ceisio ei wneud.