Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 28 Tachwedd 2018.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn hwnnw, ac mae'n ddrwg gennyf nad oeddwn yma yn gynharach. Rydym yn gweithio gyda Chwaraeon Cymru fel ein prif asiantaeth i sicrhau y rhoddir blaenoriaeth i ardaloedd difreintiedig ac i grwpiau oedran hefyd lle nad yw pobl yn cymryd digon o ran mewn gweithgarwch corfforol. Mae problem diffyg ymwneud mewn gweithgarwch corfforol yn berthnasol drwy gydol y cylch oedran, yn anffodus. Mae tua 32 y cant o bobl Cymru yn segur, ac rydym yn ceisio gweithio gyda'r cyngor chwaraeon, ac yn wir gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, i sicrhau bod y cwricwlwm cenedlaethol a datblygiadau newydd yn y cwricwlwm yn arwain at lefel uwch o weithgarwch corfforol gydol oes.