Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 28 Tachwedd 2018.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw? Ac a gaf fi ganmol gwaith Chwaraeon Cymru hefyd, a'r adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, sydd o leiaf yn edrych ar y meysydd cywir? Ond fe welais fod y lefelau sy'n cymryd rhan ymhlith y plant mwyaf difreintiedig yn is na'r llynedd mewn gwirionedd, ac mae'r bwlch rhyngddynt a phlant o ardaloedd cyfoethocach—mae'r bwlch hwnnw wedi cynyddu i 13 y cant. Ac fel y gwyddom, dangoswyd bod gweithgarwch corfforol cymedrol hyd yn oed yn gwella sgiliau plentyn mewn mathemateg a darllen, yn gwella'u cof a'u lles. Felly, mae'r rhain yn feysydd allweddol. Ac roeddwn yn meddwl, mewn ymateb i Chwaraeon Cymru, tybed beth fyddwch chi'n ei wneud, drwy weithio gydag awdurdodau lleol yn enwedig, i sicrhau y gallwn weld gwrthdroi'r gostyngiad yn y cyfraddau sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon a chau'r bwlch rhwng plant o'r ardaloedd mwyaf cefnog a lleiaf cefnog dros y 18 mis nesaf?