Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 28 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:44, 28 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Rydych yn rhoi'r rhesymau, ac nid wyf yn beiriannydd trenau, felly ni allaf amau'r manylion. Er hynny, gallaf ofyn hyn: pa waith monitro, pa graffu, oedd yn digwydd gan Lywodraeth Cymru ar yr hyn roedd Arriva yn ei wneud pan oedd yn dal y fasnachfraint yng Nghymru? A fyddwch yn mynd ar ôl Arriva, er enghraifft, ynglŷn â chyflwr y trenau fel y cawsant eu gadael i chi fel Trafnidiaeth Cymru? A gwrandewch, rwyf eisiau i Trafnidiaeth Cymru lwyddo. Mae pawb ohonom eisiau gwasanaeth trên gwell i Gymru. Ond a allwch ateb y cwestiwn hwn: a oeddech chi'n barod ar gyfer y trosglwyddiad?