Perfformiad Trafnidiaeth Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 28 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 2:15, 28 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf wedi gwrando'n astud ar ddatganiad y Llywodraeth ar Trafnidiaeth Cymru ac yn cydnabod anawsterau'r pontio. Ddoe, dywedodd Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip fod Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu cyflwyno rhywbeth tebyg i gerdyn Oyster Transport for London—rhywbeth rwy'n ei groesawu. Mae'n swnio fel rhywbeth a fydd o fudd go iawn i gymudwyr. Beth fydd yr amserlen ar gyfer cyflwyno'r system hon, ac yn bwysicach, sut y caiff ei hyrwyddo ymhlith y cyhoedd, ac a oes unrhyw atebion cyflym y gallwch ddweud wrth y cyhoedd a'r Siambr hon amdanynt?