Perfformiad Trafnidiaeth Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 28 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:16, 28 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n falch o allu dweud bod hwn yn amcan sydd gennym ar gyfer y pum mlynedd gyntaf cyn inni gyrraedd yr adolygiad pum mlynedd. Yn fy marn i, mae'r cerdyn Oyster yn Llundain wedi bod yn llwyddiant mawr, ond wrth gwrs, erbyn hyn gallwn ddefnyddio ein cardiau banc ar drenau tanddaearol Llundain yn hytrach na gorfod prynu cerdyn Oyster, gan ddangos unwaith eto fod technoleg wedi symud ymhellach eto. Hoffwn fod mewn sefyllfa erbyn 2023 lle mae'r mwyafrif llethol o bobl yng Nghymru ac ar ochr Lloegr i ardal masnachfraint Cymru a'r gororau yn defnyddio systemau talu heb arian, fel ei fod yn fwy costeffeithiol ac er mwyn inni allu cyfyngu ar nifer y bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau heb dalu am docynnau.