Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 28 Tachwedd 2018.
Diolch ichi am y cwestiwn pellach hwnnw. Mae hyn yn ymwneud, wrth gwrs, â dull mwy cyffredinol y Llywodraeth o weithredu ar broblemau gordewdra a byw'n iach. Ac rydym yn bwriadu ceisio sefydlu dealltwriaeth ym mhrofiad ysgol pobl ifanc fod cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ac yn y dewis o weithgareddau chwaraeon yn yr ysgol yn garreg sylfaen ar gyfer ffordd o fyw iach. Rydym bellach yn—. Yn ein gwaith gyda Chwaraeon Cymru, rydym bellach yn cael ein galluogi i dderbyn ymatebion mwy manwl i effaith ein polisi, ond rwy'n llwyr ymwybodol, ac wedi trafod hyn gyda'r prif swyddog meddygol, fod gennym gohort yn y grŵp oedran iau, yn yr ysgol gynradd, lle mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r broblem hon. Ond byddaf yn sicr yn adrodd yn ôl i'r Cynulliad pan fydd gennym fwy o wybodaeth ar y pwynt hwn.