Y Contract Economaidd

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 28 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:12, 28 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Nid oes amheuaeth yn fy meddwl y gallai llawer o gyflogwyr fabwysiadu'r contract economaidd a darparu gwell amgylchedd gwaith a chyfleoedd i'w gweithwyr allu symud ymlaen drwy'r gweithle ac i fyny drwy'r gwahanol swyddi a rolau ac ennill cyflog gwell o ganlyniad. Nawr, mae'r gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau ar sail amser llawn fesul awr yn 7.3 y cant yng Nghymru ac 8.6 y cant ledled y DU yn ei chyfanrwydd. Rhwng 2011 a 2018, mae'r gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru wedi gostwng o 9.2 y cant i 7.3 y cant—felly, symudiad sydd i'w groesawu i'r cyfeiriad iawn dros y saith mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae arnaf ofn fod angen gwneud mwy o waith o hyd, a chredaf y bydd rôl y Comisiwn Gwaith Teg yn allweddol yn hyn o beth, yn llywio'r modd y defnyddiwn y contract economaidd fel y cyfrwng i hybu ymddygiad cyfrifol gan gyflogwyr. Wrth gwrs, mae cyflog cyfartal i ddynion a menywod yn ymagwedd gyfrifol y dylai busnesau ei mabwysiadu.