Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 28 Tachwedd 2018.
Wel, bydd yr Aelod yn gwybod o fy sesiwn dystiolaeth yn ei bwyllgor yn ddiweddar fod y gronfa dyfodol yr economi gyfunol wedi'i sefydlu. Mae honno bellach ar waith. Rydym wedi dyfarnu cymorth i nifer sylweddol o fusnesau. Mae'r rheini'n cynnwys busnesau bach a micro. Hyrwyddir y contract economaidd newydd yn bennaf yn ystod y camau cychwynnol i fusnesau sy'n ceisio cymorth ariannol gan y Llywodraeth. Ond rwy'n gallu dweud—ac rwy'n falch iawn o allu rhoi gwybod i'r Aelod—ein bod yn clywed bod nifer o fusnesau nad ydynt yn ceisio cymorth ariannol bellach yn defnyddio ac yn llofnodi'r contract economaidd yn llwyddiannus. Mae hynny'n dangos, rwy'n credu, fod gan Gymru nifer enfawr o fusnesau sy'n ymddwyn yn gyfrifol ac yn dymuno hybu twf cynhwysol fel blaenoriaeth ar gyfer ein gwlad.