Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 28 Tachwedd 2018.
Mae hi bob amser yn braf dechrau dadl gyda chytundeb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac ar yr achlysur hwn, diddordeb cyffredin ydyw yn llwyddiant bargen ddinesig bae Abertawe. Efallai ei fod yn dweud 'Abertawe' yn y teitl, ond mae'r cyfleoedd ar gyfer ardaloedd awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot, sir Gaerfyrddin a sir Benfro yr un mor gyffrous. Rydym yn sôn am bron i 10,000 o swyddi newydd a hwb economaidd o £2 biliwn i'r ardal. Felly, beth sydd i beidio â'i hoffi? Nid yw fel pe baem yn brin o syniadau arloesol a luniwyd gennym ni ein hunain, ond nid oes gennym hanes arbennig o dda o'u masnacheiddio er budd y tyrfaoedd, ac mae hwn yn gyfle i ddangos y gallwn wneud hynny.
Mae hyder yn allweddol i lwyddiant y fargen ac un elfen o hyder yn y cyd-destun hwn yw'r gallu i argyhoeddi buddsoddwyr rhyngwladol, yn ogystal â buddsoddwyr yng Nghymru, fod y rhanbarth yn hawdd ei gyrraedd ac yn hawdd i deithio o'i gwmpas. Roedd rhai ohonom yn synnu pan welsom nad oedd cysylltedd ffisegol yn nodwedd o'r cynlluniau ar gyfer y fargen, ac rwy'n gobeithio bod y ffaith bod Mike Hedges a minnau, ac eraill, yn dal i godi hyn yn sicrhau na fyddwch yn colli golwg ar y ddolen goll hon.
Mae'r Athro Mark Barry wedi cynhyrchu syniad cwmpasu cychwynnol ar gyfer metro de Cymru—metro De Cymru Gorllewinol, dylwn ddweud. Nid yw'n berffaith, yn fy marn i, a chadarnhaodd Rob Stewart, arweinydd cyngor Abertawe, mewn cyfarfod ag ACau am y fargen ddinesig, mai man cychwyn yn unig yw syniadau'r athro. Ond er bod cysylltedd digidol sy'n arwain y byd yn un o nodau craidd y fargen, ac yn hanfodol ar gyfer ei hirhoedledd, mae ei fodolaeth ynddo'i hun yn tanlinellu'r pwynt y bydd pobl yn dal i fod angen cerdded, beicio, gyrru, dal bysiau, trenau, tramiau er mwyn cymryd rhan yn y fargen—yn uniongyrchol fel gweithlu ac yn anuniongyrchol fel buddiolwyr y cyfoeth cynyddol a gynhyrchir yn y rhanbarth. I fod yn hyderus ynglŷn â hyblygrwydd y rhanbarth, mae angen i fuddsoddwyr fod yn hyderus ynglŷn â'i symudedd. Ac rwy'n tybio, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwch eisiau codi trydaneiddio yn eich ymateb i'r ddadl hon—a gwnewch hynny ar bob cyfrif. Ond buaswn yn hoffi'n fawr pe baem yn meddwl am y dyfodol y gallwn wneud rhywbeth yn ei gylch, a dyfodol sy'n cydnabod y gall penderfyniadau gofalus am drafnidiaeth ymwneud ag adfywio llwyddiannus ac nid trenau cyflymach yn unig.
Mae'r fargen ddinesig yn cynnwys 11 o brosiectau sy'n canolbwyntio ar weithgynhyrchu, ynni, gwyddor bywyd a llesiant a sbarduno economaidd, yn ogystal â'i hymgyrch graidd tuag at ddigidol—tra-arglwyddiaeth byd-eang yw'r ffordd rwy'n hoffi meddwl amdano. Ond hoffwn ganolbwyntio ar beth a allai, ac a ddylai, fod yn ddeuddegfed prosiect, sef gorsaf parcffordd Abertawe. Yn wahanol i drydaneiddio, sy'n fuddsoddiad enfawr wedi'i lunio i gyflymu teithiau, mae parcffordd yn ymwneud lawn cymaint ag adfywio'r safle mawr yn Felindre sydd wedi methu denu fawr o ddiddordeb ers diflaniad y gwaith tunplat; mae'n ymwneud lawn cymaint â hynny ag â gwella cysylltedd o amgylch y rhanbarth yn ogystal â gwella symudedd o fewn Abertawe a'r penrhyn.