2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 28 Tachwedd 2018.
2. A wnaiff Llywodraeth Cymru gomisiynu astudiaeth ar sut y gall helpu cwmnïau cyfreithiol yng Nghymru i baratoi ar gyfer yr heriau sy'n deillio o dechnoleg newydd? OAQ52987
Mae'r Llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd y sector cyfreithiol yng Nghymru, nid yn lleiaf oherwydd y byddai sector cryf a ffyniannus yn sylfaen i unrhyw drefniadau awdurdodaethol newydd a allai godi o waith y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Rydym yn edrych eto ar y ffordd orau o gefnogi'r sector, ac mae hynny'n cynnwys comisiynu gwaith cynghorol a allai fod yn bellgyrhaeddol. Ond mae'n amlwg y bydd y cyfleoedd a'r heriau sy'n deillio o dechnolegau newydd yn chwarae rhan yn hynny.
Diolch i chi, Gwnsler Cyffredinol. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i chi am fynychu'r drafodaeth bwrdd crwn a drefnais yn ddiweddar gydag ysgolion y gyfraith a chwmnïau cyfreithwyr i edrych ar effaith awtomatiaeth ar y sector cyfreithiol yng Nghymru. Roedd hi'n amlwg o'r drafodaeth a gawsom fod yna gyfleoedd a bygythiadau: cyfleoedd i'r cwmni, fel y clywsom gan Hoowla, sy'n darparu meddalwedd ar gyfer rheoli achosion ac awtomeiddio llif gwaith, a allai ryddhau adnoddau mewn cwmnïau yn sicr, ond hefyd gallai greu risgiau i'r oddeutu 30 o gwmnïau cyfreithwyr bach yn fy etholaeth—yn amlwg, mae'r ffaith y gallwch gael ewyllys ar-lein am £19.99 yn achosi problem sylweddol i'w model busnes.
Roeddwn yn credu ei bod hi'n drawiadol o'r drafodaeth fod lefel yr ymwybyddiaeth yn y sector cyfreithiol yn eithaf isel, ac fel y nododd Richard Susskind, yr awdur, ceir rhyw raddau o wadiad ymhlith y cwmnïau fod y newid hwn yn dod a'r effaith a gaiff arnynt. Felly, byddai'n ymddangos bod darparu sgiliau a chyngor yn hanfodol er mwyn caniatáu i gwmnïau cyfreithwyr addasu, oherwydd os nad ydynt yn addasu, fe fyddant yn dod i ben.
Roeddwn yn falch o gael gwahoddiad gan yr Aelod i'r drafodaeth bwrdd crwn ar dechnoleg gyfreithiol ychydig wythnosau yn ôl. Roedd yn gyfle pwysig i archwilio'r hyn sy'n newid sylweddol iawn yn y sector gwasanaethau cyfreithiol proffesiynol yng Nghymru. Fel y soniais y bore hwnnw, rwyf wedi cyfarfod â nifer o gwmnïau cyfreithwyr ledled Cymru ers dod yn Gwnsler Cyffredinol a buaswn yn dweud, ble bynnag y maent yng Nghymru a beth bynnag yw eu maes ymarfer, a beth bynnag eu maint bron, eu bod yn gyffredinol yn cydnabod yr heriau a hefyd y cyfleoedd ar gyfer darparu gwasanaethau gwerth ychwanegol gwell neu wasanaethau mwy effeithlon y gall y dechnoleg eu cynnig. Ond hefyd, fel y mae'n nodi yn ei gwestiwn, mae posibilrwydd y ceir tarfu sylweddol iawn ar y modelau busnes y mae llawer o gwmnïau, o amryw feintiau ac amryw leoliadau unwaith eto, wedi dibynnu arnynt i gynnal y cwmnïau hynny. Felly, buaswn yn cefnogi'r pwyntiau y mae'n eu gwneud yn ei gwestiwn, yr angen mewn gwirionedd i'r sector yn gyffredinol roi sylw i'r mater ac i weld nid yn unig y bygythiad, ond hefyd y cyfle a ddaw yn sgil mwy o arloesi technolegol digidol, boed yn ddulliau o reoli achosion yn fwy effeithiol neu, ar y pen mwy uchelgeisiol, deallusrwydd artiffisial—y cyfleoedd a ddaw yn sgil hynny, nid yn unig ar gyfer cleientiaid masnachol, ond hefyd i gleientiaid sy'n defnyddio gwasanaethau a gafodd eu hariannu gan gymorth cyfreithiol hyd yn hyn. Mae'n bwysig fod y datblygiadau hyn ar gael i bawb sy'n chwilio am gyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth gyfreithiol yng Nghymru.