Archif Ddarlledu Genedlaethol i Gymru

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 28 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:37, 28 Tachwedd 2018

Nid oes unrhyw gwestiwn o golli'r archif. Mae'r archif yn gyfrifoldeb i'r BBC, ac mae'r ddarpariaeth ar ei chyfer hi at y dyfodol yn un y mae'r llyfrgell wedi mynegi diddordeb ynddi hi. Ac, yn wir, mae yn gywir i ddweud bod gwaith rhagbaratoadol wedi cael ei wneud, ac mae yna ohebiaeth wedi bod rhyngof i â'r llyfrgell ers blwyddyn ar y mater yma, yn ceisio gosod seiliau cadarn i'r datblygiad. Er enghraifft, nid oeddwn i'n fodlon bod staff presennol y llyfrgell yn gorfod cael eu hailgyfeirio, o bosib, i ddyletswyddau yn ymwneud â'r archif a fyddai yn peryglu safle'r llyfrgell, a bod yn rhaid inni ddiogelu safle cyllidol y llyfrgell. Ac i'r bwriad hwnnw y mae'r £1 filiwn, os caf ateb yn y ffordd yma, ar y bwrdd o hyd. Ac rydw i wedi trafod y mater yma heddiw'r bore, fel mae'n digwydd, gyda'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid. Yr hyn nad oeddwn yn fodlon ei wneud oedd mynd ymlaen â'r cynllun yma nes bod y llyfrgell wedi adolygu'r cynllun yn llwyr, ac wedi rhoi sicrwydd i ni ei fod o'n gynllun cynaliadwy, ac na fyddai o'n gwanio o gwbl ddarpariaeth gyffredinol ac ehangach y llyfrgell.