Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 28 Tachwedd 2018.
Diolch am yr ateb yna, Weinidog. Ond mae'n rhaid i fi ddweud, roedd hi'n fater o siom a syndod i mi ddeall yr wythnos diwethaf eich bod chi wedi gwrthod £1 filiwn i'r llyfrgell genedlaethol, a fyddai'n denu, wrth gwrs, yn ychwanegol, arian loteri—HLF—ychwanegol o ryw £5 miliwn, efo cefnogaeth Llywodraeth Cymru, i ganiatáu datblygu archif ddarlledu genedlaethol i Gymru. A ydy hi'n bosib, felly, cael cadarnhad ar gwpwl o gwestiynau sy'n dilyn o hynny? A oes yna gadarnhad bod yna ymrwymiad o £5 miliwn i'r cynllun oddi wrth y loteri ym mis Mai 2017? A ydy hynny'n ffeithiol gywir—£5 miliwn tuag at brosiect cenedlaethol o £9 miliwn i greu archif ddarlledu genedlaethol, yn cynnwys archifau y BBC, ITV, S4C a chwmnïau annibynnol? Mae yna gyfoeth o dreftadaeth gymdeithasol Cymru drwy'r ugeinfed ganrif bron i gyd yn fanna, yn y ddwy iaith, ac, wrth gwrs, pwyslais y cynllun yma yw bod argaeledd a mynediad i'r cyhoedd yn fan hyn. Nid ydym yn sôn am dapiau wedi'u storio mewn rhyw storfa bell i ffwrdd, neu hyd yn oed yn cael eu dinistrio, achos dyna ydy'r bygythiad rŵan.
Nawr, mae yna gais ffurfiol i fod i gael ei gyflwyno yr wythnos sy'n dechrau 18 Rhagfyr i'r loteri, i'r HLF. Pam ydych chi wedi ei gadael hi mor hwyr i ddweud 'na' o ran y £1 filiwn o gyfalaf yna a'r gefnogaeth strategol? A ydy'r Llywodraeth mewn egwyddor yn fan hyn yn erbyn, felly, creu archif ddarlledu genedlaethol? A oes modd i'r Llywodraeth edrych eto ar hyn i weld sut y gellid gweithio allan unrhyw gonsérn sydd gyda chi, fel bod y £5 miliwn o arian HLF ddim yn cael ei golli i Gymru, achos dyna ydy'r bygythiad rŵan, a bod pobl Cymru yn cael mynediad i archif wirioneddol genedlaethol? Achos rydym ni yn sôn yn fan hyn, i orffen, Llywydd, am adeiladu cenedl, am gof cenedl—dyna beth yw archif. Ddoe, fe glywsom ni am bwysigrwydd hanfodol creu sefydliadau cenedlaethol, ac mae angen gwir ddatrysiad i'r sefyllfa yma rŵan, neu fe gollir archif gwerthfawr am byth. Beth amdani, Weinidog?