Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 28 Tachwedd 2018.
Diolch. Mae'r adroddiad sy'n cyfeirio at y cyfnod hyd at fis Mawrth 2018 yn peri anghysur. Dechreuodd y prif weithredwr yn ei swydd ym mis Chwefror 2018. Penodais gadeirydd dros dro ar 1 Tachwedd, ac rwyf wedi ailwampio'r bwrdd y mis hwn gyda phum aelod newydd. Maent yn y sefyllfa orau i oruchwylio'r gwelliannau sydd eu hangen, er mwyn sicrhau na chaiff camgymeriadau eu hailadrodd. Mae gennyf hyder llawn ynddynt.