Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 28 Tachwedd 2018.
Nid wyf yn siŵr iawn a ydw i fod i ddatgan budd yn fan hyn oherwydd bod cymaint o fy ngyrfa broffesiynol i yn yr archif BBC—[Chwerthin.]—ond rydw i yn ystyried yr ymateb gennych chi i'r cwestiwn amserol prynhawn yma i fod yn un cadarnhaol dros ben—bod yr arian yma yn dal â photensial i fod ar y bwrdd. Tybed a allwch chi roi sicrwydd bod yr arian yna ar gael i'w ryddhau rŵan er mwyn rhyddhau'r arian HLF yn y ffenest bresennol, os ydy'r sicrwydd rydych yn chwilio amdano fo yn gallu dod mewn cyfnod amserol gan y llyfrgell genedlaethol.