Archif Ddarlledu Genedlaethol i Gymru

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 28 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:42, 28 Tachwedd 2018

Wel, mae yna drafodaeth wedi bod efo cronfa’r loteri ac mae'r trafodaethau yna yn parhau. Nid wyf mewn safle i allu dweud a fydd yna estyniad pellach i'r amser, ond rwy'n gobeithio y bydd yna, a fydd yn rhoi cyfle inni wedyn ddatrys y mater yma o fewn y mis neu ddau nesaf. Mae hynny'n hanfodol i mi, ond mae'n rhaid imi ei wneud yn hollol glir nad oeddwn i ddim yn fodlon gweld unrhyw leihad yn narpariaeth y llyfrgell genedlaethol fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ac mae o'n gwestiwn i'w ofyn i'r BBC, ac nid wyf yn glir iawn am y sefyllfa yma: beth sydd yn digwydd a phwy sy'n talu am archif y BBC yn Lloegr, yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban? Ni fedraf i gredu bod Gweinidogion yn y Llywodraethau yna yn mynd i roi arian i'r BBC, sydd yn cael arian sylweddol gennym ni i gyd fel rhan o'r drwydded, pan fo modd datrys y materion yma heb orfod gwario arian cyhoeddus ychwanegol allan o gyllideb gyfyngedig Llywodraethau datganoledig.