Part of the debate – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 28 Tachwedd 2018.
Fel y nododd Cadeirydd y pwyllgor, roedd ein hymchwiliad yn canolbwyntio ar dri maes: masnach, twristiaeth, sgiliau a hyfforddiant. Rhaid cydnabod nad yw gwerthu gwlad fach fel Cymru ar y farchnad fyd-eang yn dasg hawdd. Yn anffodus, mae ein cymuned o Gymry alltud ledled y byd yn llawer llai nag un yr Alban neu Iwerddon. O ganlyniad, mae gwybodaeth gyffredinol y byd am Gymru yn llawer llai nag un y gwledydd hyn. Rydym yn llusgo ar ôl y gwledydd hyn, fel petai. Gwelwyd y diffyg gwybodaeth gyffredinol hwn am Gymru yn ein hymweliad diweddar â Brwsel, pan ddywedodd y diplomyddion a'r swyddogion o Ganada y cyfarfuom â hwy nad oedd ganddynt fawr o wybodaeth, os o gwbl, am Gymru tan yn ddiweddar.
Wrth gwrs, mae yna arwyddion fod Cymru'n dechrau cael sylw, yn enwedig yn sgil y digwyddiadau chwaraeon byd-eang rydym wedi llwyddo i'w denu—mae Cwpan Ryder a Chynghrair y Pencampwyr yn enghreifftiau da o hyn. Ond mae'n rhaid i ni ofyn: a ydynt yn cynnig gwaddol barhaol, neu a fydd y gwaddol hwnnw'n cael ei basio i'r lleoliad nesaf a fydd yn cynnal y digwyddiad? Mae Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates, yn argyhoeddedig ein bod yn dechrau ymsefydlu yn y cyd-destun rhyngwladol drwy ddarlunio ein hunain fel parc antur twristiaeth Ewrop er enghraifft, ac rwy'n siŵr bod y math hwn o arbenigedd yn allweddol i sicrhau sylw byd-eang i Gymru.
Yr argymhelliad cyntaf yn ein hadroddiad yw y dylai'r Llywodraeth greu swydd benodol yn y Cabinet i gyfuno cyfrifoldebau masnach ryngwladol a gweithrediad polisi Brexit. Mae'r pwyllgor yn credu bod hwn yn ffactor allweddol ar gyfer dwyn ynghyd yr holl elfennau gwahanol wrth ddatblygu brand Cymru. Rwy'n siomedig nad yw'r Llywodraeth ond wedi derbyn ein pedwerydd argymhelliad mewn egwyddor, sef y dylai Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi cylch gwaith manwl ar gyfer y swyddfeydd tramor a llunio adroddiad blynyddol ar y modd y mae pob swyddfa yn cyflawni'r cylch gwaith hwnnw. Mae'n rhaid gofyn: pa ffordd arall y gallwn graffu ar eu perfformiad a gwneud addasiadau a strategaethau i'w gwneud yn fwy effeithiol?
Rwyf am gloi drwy nodi bod gennym ym maner unigryw'r Ddraig Goch eicon marchnata parod sy'n llawer mwy adnabyddus na chroes Andreas yr Alban neu faner drilliw Iwerddon, neu groes San Siôr, os caf ddweud. Dylem ei hyrwyddo ar bopeth a gynhyrchwn a lle bynnag y byddwn yn ei arddangos. Mae cwmnïau'n talu miliynau i gael symbol mor adnabyddus; dylem fanteisio arno lle bynnag a phryd bynnag y gallwn.