Part of the debate – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 28 Tachwedd 2018.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad o blaid yr adroddiad hwn ar werthu Cymru i'r byd. Mae'n faes hanfodol ar gyfer ffyniant ein gwlad ac yn un sy'n fwyfwy hanfodol wrth i ni wynebu ansicrwydd y byd ôl-Brexit. Mae rhoi sgiliau, hyder a chyfleoedd i fusnesau bach ymgysylltu, yn fy etholaeth yng Nghwm Cynon, a ledled Cymru, yn wirioneddol bwysig. Mae'r adroddiad hwn yn dangos yn glir beth arall sy'n rhaid i ni ei wneud er mwyn cael pethau'n iawn. Credaf fod yna chwe argymhelliad allweddol yn yr adroddiad, ac rwyf am ganolbwyntio ar y rhain.
Yn gyntaf, argymhelliad 2—nawr, mae hwn yn nodi pwysigrwydd strategaeth twf allforio sy'n paratoi cwmnïau ar gyfer marchnadoedd rhyngwladol ac yn cynyddu nifer y cwmnïau sy'n allforio. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn, a thrwy wneud hynny, mae'n nodi'r hyn y mae'n ei wneud eisoes, megis blaenoriaethu allforio o fewn y cynllun gweithredu economaidd. Mae'n arbennig o braf gweld cyfeiriad at ein sector bwyd a diod. Mae nifer o gwmnïau yn fy etholaeth eisoes wedi elwa o gefnogaeth Llywodraeth Cymru i gymryd rhan mewn ffeiriau masnach o fri. Maent wedi dweud wrthyf pa mor werthfawr oedd hyn wrth iddynt adeiladu eu llwyddiant. Mae hynny'n cynnwys cwmnïau fel Distyllfa Penderyn a gydnabyddir yn rhyngwladol—ac a groesawodd y Prif Weinidog yr wythnos o'r blaen—yn ogystal â bragdy Grey Trees, Authentic Curry Co., a Welsh Hills Bakery, gyda'u cynnyrch di-glwten arbenigol. Rwy'n gobeithio y gallwn annog mwy o'n cwmnïau lleol i gymryd rhan yn y modd hwn, yn enwedig ar ôl Brexit.
Mae cynyddu cyfraniad busnesau hefyd yn allweddol i argymhelliad 6. Fodd bynnag, mae hyn yn ymwneud mwy â'u cael i gefnogi hunaniaeth brand Cymreig cryf. Rydym yn gwybod bod gan wledydd sy'n gwneud yn dda frand cryf y gellir ei adnabod. Ac rwy'n rhannu pryderon cyd-Aelodau eraill sydd eisoes wedi siarad nad yw ein brand Cymreig mor gryf ag y gallai fod. Nodaf o'n gwaith fel pwyllgor hefyd y dystiolaeth gan randdeiliaid fod angen amser i sefydlu hunaniaeth brand.
Credaf fod y gwaith y mae Croeso Cymru yn ei wneud gyda'i flynyddoedd thematig amrywiol yn gyffrous iawn, ond rwy'n meddwl tybed ai newid ffocws bob blwyddyn yw'r ffordd gywir o adeiladu hunaniaeth brand. Efallai fod angen inni feddwl am thema fwy hirdymor i adeiladu brand Cymreig go iawn a gydnabyddir yn fyd-eang. Edrychaf ymlaen at weld canlyniadau'r gwaith ar ddatblygu canolbwynt brand digidol ar gyfer busnesau a sefydliadau Cymru, ac edrychaf ymlaen at weld brand Cymru yn cael ei gynnwys ar yr holl arwyddion a labeli twristiaeth. Mae argymhellion 7 ac 8 yn gysylltiedig â hyn. Nawr, pan oeddem yn gwneud y gwaith hwn yn y pwyllgor, nid oeddwn yn hapus o gwbl ynghylch y diffyg adnoddau Cymreig ar dudalennau gwe VisitBritain, ac yn arbennig, y diffyg cynhyrchion y gellir eu harchebu. Rwyf wedi edrych eto y bore yma, ac mae'n dda gweld bod pethau'n gwella a bod wyth o atyniadau Cymreig y gellir eu harchebu yno erbyn hyn. Mae hynny'n fwy na Gogledd Iwerddon, ond yn dal i fod yn llai na'r Alban, ac yn gyfran fach iawn o'r 153 o atyniadau y gellir eu harchebu yn Lloegr, gan gynnwys Llundain.
Mae'n ddarlun tebyg ar gyfer tripiau a theithiau a thocynnau ymweld hefyd. Ni allaf weld unrhyw gysylltiad uniongyrchol rhwng tudalen we VisitBritain a thudalen we Croeso Cymru. Felly, croesawaf y dystiolaeth a roddodd Ysgrifennydd y Cabinet i'r pwyllgor, a gwn fod hyn yn rhywbeth y dywedodd ei fod yn ymwybodol ohono a'i fod wedi cynnal trafodaethau yn ei gylch. Ac mae'n dda gweld y manylion ychwanegol a nodwyd yn ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad, yn enwedig mewn perthynas â datblygu cynhyrchion y gellir eu harchebu a chryfhau partneriaethau. Mae'n amlwg fod angen gwneud mwy yn y maes hwn i roi chwarae teg i Gymru.
Hoffwn gefnogi argymhelliad 11 yn llawn hefyd, ar ddatganoli'r doll teithwyr awyr. Cyflwynodd yr Athro Annette Pritchard, arbenigwr ar dwristiaeth ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, achos cryf iawn i ni yma, fel pwyllgor. Dywedodd wrthym fod methiant i ddatganoli'r doll teithwyr awyr wedi atal twristiaeth, twf economaidd, rhagolygon cyflogaeth a chyfraniadau refeniw. Yn ogystal, roedd yn amharu ar allu Maes Awyr Caerdydd i ehangu a gweithredu fel canolbwynt ar gyfer twristiaeth ryngwladol i Gymru. Yn wir, mae gwaith modelu a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru wedi amcangyfrif y gallai datganoli'r doll teithwyr awyr arwain at 658,000 o deithwyr ychwanegol yn defnyddio Maes Awyr Caerdydd bob blwyddyn erbyn 2025. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn anfon neges gref y dylid datganoli'r doll teithwyr awyr, a chefnogi ateb cadarn Ysgrifennydd y Cabinet ar hyn.
Rwyf am gloi drwy ddweud ychydig eiriau am ein hargymhelliad cyntaf, sef yr un sy'n galw am bortffolio masnach ar lefel y Cabinet. Er fy mod yn cytuno â hyn, hoffwn ganmol y gwaith y mae Gweinidogion wedi'i wneud yn y maes hwn hyd yn hyn hefyd, yn enwedig yr arweiniad a ddangoswyd gan ein Prif Weinidog drwy gydol ei gyfnod yn y swydd. Mae'n bosibl y bydd Prif Weinidog yn y dyfodol yn cytuno â ni fod presenoldeb gweladwy sy'n canolbwyntio ar y maes hwn yn bwysig, ond ni ddylai hynny dynnu oddi ar yr ymroddiad y mae ein Prif Weinidog cyfredol a'i dîm wedi'i ddangos wrth werthu Cymru. Rwy'n falch o gymeradwyo'r adroddiad hwn heddiw.