Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 28 Tachwedd 2018.
Rydym ni yn trafod gyda'r cyngor celfyddydau ynglŷn â sut y gallwn ni gyfuno'r cymorth yma. Mae wedi nodi y bydd y cyngor yn parhau i geisio ymestyn y rhaglen gydnerthedd, neu 'gwytnwch' os ydy hynny'n well gennyt ti, yn llwyddiannus. Mae'r rhaglen yma yn rhoi cymorth busnes a chymorth llywodraethiant i sefydliadau celfyddydol allweddol ar gyfer eu hanghenion unigol. Rydym ni hefyd yn awyddus i helpu Celfyddydau a Busnes Cymru i barhau â'r gwaith o annog nawdd corfforaethol ac i ysgogi mwy o bobl i ymwneud â'r celfyddydau ymhob ffordd. Rydw i wedi gofyn i swyddogion drefnu partneriaethau lle byddai peth o gyllid craidd Celfyddydau a Busnes Cymru yn seiliedig ar lefel y buddsoddiad ychwanegol y byddan nhw'n ei sicrhau ar gyfer sector ehangach y celfyddydau. Ond rydym ni'n dal i geisio gwirio'r cynllun yna ar hyn o bryd. Ond rydw i'n meddwl bod y syniad o roi anogaeth i Gelfyddydau a Busnes Cymru a'u gwobrwyo nhw am eu llwyddiant yn gweithio i godi cyllid yn egwyddor ddefnyddiol iawn. Ac rydw i'n gobeithio y byddwn ni'n gallu cadw cyllid yng nghyllideb y flwyddyn nesaf yn benodol ar gyfer hynny.
Roedd yr adroddiad hefyd yn gofyn inni godi ymwybyddiaeth am sefydliadau celfyddydol Cymru a'r buddsoddiad y mae ymddiriedolaethau a sefydliadau ar draws y Deyrnas Unedig yn ei wneud ynddyn nhw. Rydym ni wedi mynd i'r afael â hyn mewn sawl ffordd. Rydym ni wedi gofyn i'r cyngor celfyddydau gymryd yr awenau strategol. Maen nhw eisoes wedi cynnal dau ddiwrnod o gyfarfodydd yn Llundain gyda chynrychiolwyr sefydliadau mawr o'r Deyrnas Unedig, ac mae'r dyddiau yma wedi bod mor boblogaidd fel y byddan nhw yn arwain at ddigwyddiadau pellach yng Nghymru yn ogystal.
Ar ben hynny, mae Celfyddydau a Busnes Cymru wedi bod yn trefnu symposiwm i roi cyngor wyneb yn wyneb i sefydliadau celfyddydol ar y ffyrdd gorau o wneud ceisiadau yn llwyddiannus wrth geisio cyllid. Yn y symposiwm diweddaraf, roedd yna bedair ymddiriedolaeth o Lundain wedi cysylltu â Chelfyddydau a Busnes Cymru er mwyn trefnu dyddiau tebyg eu hunain. Mi fyddaf i hefyd yn cysylltu â'r prif ymddiriedolaethau a sefydliadau drwy'r Deyrnas Unedig i ofyn am eu cefnogaeth nhw i fynd â'r argymhelliad hwn ymhellach, ac yn gwahodd eraill sy'n arbenigo mewn cyflwyno ceisiadau llwyddiannus i wahanol ymddiriedolaethau a sefydliadau i rannu eu profiadau nhw yn ehangach.
Mae'r adroddiad hefyd yn gofyn inni ddatblygu strategaeth i helpu'r sector celfyddydau i ddatblygu'r marchnadoedd rhyngwladol, i gomisiynu ymchwil, i nodi'r marchnadoedd sydd â'r potensial i ehangu fwyaf, ac i sicrhau bod yr elfen ddiwylliannol yn amlwg mewn teithiau cenhadol, mewn teithiau masnach tramor. Rydym ni'n croesawu hyn yn fawr. Yn dilyn y newid yn ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd, mae'n rhaid i Gymru ddatblygu dull a stori newydd i gyfleu ein gwaith rhyngwladol, ochr yn ochr â'r Undeb Ewropeaidd, wrth gwrs. Mae hynny yn dilyn y datganiad o weledigaeth a gawsom ni yn 'Golau yn y Gwyll', a'r pwyslais ar ba mor bwysig yw sicrhau bod pobl yn ymddiddori mewn diwylliant er mwyn dangos yn glir ein bod ni yn wlad gyfoes a diwylliedig sy'n edrych allan, ac yn wlad i ymweld â hi o safbwynt dwristiaeth ac i wneud busnes â hi.
Ym mis Gorffennaf, wrth annerch fforwm celfyddydau rhyngwladol yng Nghaerdydd, fe ges i gyfle i roi her i'r asiantaethau allweddol, gan gynnwys y cyngor celfyddydau, y Cyngor Prydeinig yng Nghymru, a'r cyngor llyfrau, a hefyd yr amgueddfeydd a'r orielau, i gydweithio â ni yn Llywodraeth Cymru er mwyn mynd i'r afael â'r bwriad yma i wella canlyniadau diwylliannol ac economaidd ein gweithgareddau rhyngwladol. Mae'r ymateb i hynny wedi bod yn hynod gadarnhaol, ac mi fydd yna gyfarfod pellach cyn hir i ddatblygu'r gwaith yma.
Fel y pwysleisiodd y pwyllgor, mae cael gwybodaeth arbenigol am godi arian yn hanfodol, yn enwedig ar gyfer sefydliadau celfyddydol llai. Yn y cyfeiriad yma, mae'n bwysig atgoffa unrhyw gwmni celfyddydol neu unrhyw fusnes celfyddydol fod y cymorth sydd gyda ni drwy Fusnes Cymru ar gael iddynt hwythau. Mae'r gwasanaethau yma ar gael i sefydliadau celfyddydol llai i helpu i farchnata, i fanteisio ar eiddo deallusol ac yn y blaen. Ond rydym ni yn derbyn bod angen help mwy arbenigol ar rai agweddau o godi arian, ac mae cyngor y celfyddydau eto yn mynd i'r afael â'r mater yma. Ac mi fydd y cyngor, cyn hir, yn cyhoeddi cynlluniau i helpu sefydliadau llai i ddatblygu ac i godi arian, yn enwedig i'r rheini nad ydyn nhw’n cael arian craidd o fewn cynllun cyngor y celfyddydau.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd wedi rhoi arian loteri i Gelfyddydau a Busnes Cymru er mwyn datblygu'r rhaglen o interniaethau creadigol, i hyfforddi gweithwyr proffesiynol newydd i godi arian. Mi fyddan nhw hefyd yn cefnogi lleoliadau bwrsariaethau yn yr ysgol codi arian ar gyfer y celfyddydau cenedlaethol, ac mae'r cyngor hefyd wedi creu pecyn cymorth briffio ar gyfer sefydliadau codi arian am y tro cyntaf. Mi fydd y gwaith yma'n cael ei ddatblygu, a'r deunydd yma ar gael yn fuan iawn.
Ac yn olaf, rydw i'n dod at fy hoff gorff nad yw eto wedi'i lwyr sefydlu, sef Cymru Greadigol. Ac mae'r pwyllgor wedi gofyn, yn ddigon teg, inni egluro'r nodau o ran sut y byddwn ni'n gweithredu Cymru Greadigol. Mi fydd Cymru Greadigol yn cael ei sefydlu fel asiantaeth fewnol o fewn Llywodraeth Cymru, yn cyfateb, ond nid yn union yn yr un modd, yn ei drefniadaeth fewnol i Cadw a Chroeso Cymru. Rydym ni wrthi ar hyn o bryd yn penodi aelodau i fwrdd cynghori ac mi fydd disgwyl i'r asiantaeth newydd yma weithio mewn partneriaeth agos â Chyngor y Celfyddydau, ac mae'r cyngor, wrth gwrs, yn croesawu hynny.
Rydym ni'n credu y bydd Cymru Greadigol yn gorff a fydd yn gallu datblygu'r potensial economaidd llawnach yn y sector greadigol yn gyffredinol. A gobeithio bod hynny yn ymateb yn weddol lawn i argymhellion gwerthfawr y pwyllgor hwn. Diolch yn fawr.