– Senedd Cymru am 3:25 pm ar 28 Tachwedd 2018.
Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Meithrin Cydnerthedd: Ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau'. Galwaf ar Dai Lloyd i siarad yn y ddadl ar ran y pwyllgor— Dai.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rydw i’n falch iawn o agor y ddadl yma ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ‘Meithrin Cydnerthedd’, sy’n trafod cyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau.
Mae’r celfyddydau yn rhan hanfodol o fywyd Cymru. Fel cenedl, rydym ni'n dathlu traddodiad sydd yn hen a chyfoethog o weithgarwch ac allbwn artistig. Rydym ni wedi bod yn gartref hirhoedlog i lu o unigolion talentog ac angerddol sydd wedi helpu i greu sector sy’n dod â manteision eang i bob un ohonom ni. O fuddion economaidd ac ymarferol i helpu i fynd i’r afael â materion polisi cyhoeddus, boed hynny o fewn y system addysg neu wrth fynd i’r afael â materion iechyd, mae’r celfyddydau yn rhan annatod o unrhyw gymdeithas iach a ffyniannus. Hefyd, mae yna gydnabyddiaeth eang fod cymryd rhan yn y celfyddydau yn hyrwyddo cydlyniant cymunedol ac yn lleihau unigrwydd ac allgáu cymdeithasol.
Serch hyn, mae cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau wedi gostwng yn sylweddol mewn termau real yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae’r mwyafrif helaeth o ddyraniadau cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y celfyddydau yn mynd i Gyngor Celfyddydau Cymru. Yn y gyllideb ar gyfer 2017-18, allan o’r £31.7 miliwn a ddyrannwyd i’r maes hwn, dyrannwyd £31.2 miliwn i gyngor y celfyddydau. Fodd bynnag, rhwng 2011-12 a 2017-18, mae cyllid Llywodraeth Cymru i gyngor y celfyddydau wedi gostwng 18 y cant mewn termau real. Mae cyfran cyngor y celfyddydau o gyllid y loteri hefyd wedi gostwng yn ystod y cyfnod hwn. Hefyd, wrth i gyllidebau awdurdodau lleol dynhau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r cyllid y mae’r sector celfyddydau yn ei gael o’r cyfeiriad hwn hefyd wedi gostwng. I ddangos hyn, mae cyllid awdurdodau lleol i Bortffolio Celfyddydau Cymru, sef y sefydliadau celfyddydol sy’n cael cyllid refeniw blynyddol gan gyngor y celfyddydau, wedi gostwng o £11 miliwn yn 2011-12 i £5.1 miliwn yn 2016-17.
O gofio’r gydnabyddiaeth eang o’i fanteision, mae’r lefel hon o doriadau yn amlwg yn codi pryderon. Er mwyn lliniaru’r gostyngiad hwn mae Llywodraeth Cymru wedi galw ar gyngor y celfyddydau i leihau dibyniaeth y sector ar gymhorthdal cyhoeddus ac i’r sector ei hun godi ei gêm o ran codi arian.
Felly, ar gyfer yr ymchwiliad hwn, yn hytrach na dim ond trafod effaith y dirywiad hwn mewn cyllid a galw am ei gynyddu, gwnaethom benderfynu edrych yn benodol ar ddull y Llywodraeth o weithredu yn y maes hwn i asesu pa mor ddichonadwy ydyw, a gofyn a oes unrhyw gamau ymarferol ychwanegol y gallai’r sector eu cymryd i arallgyfeirio a chynyddu’r cyllid y mae’n ei gael o ffynonellau nad ydynt yn ffynonellau cyhoeddus.
Er mwyn llywio’r ymchwiliad, cytunodd y pwyllgor i archwilio yn gyntaf pa mor llwyddiannus y mae sector y celfyddydau yng Nghymru wedi bod o ran cynyddu cyllid heblaw cyllid cyhoeddus; hefyd, sut y caiff cyllid celfyddydol heblaw cyllid cyhoeddus ei rannu ledled Cymru; ac a oes yna fodelau rhyngwladol o arferion gorau y gallai Cymru eu hefelychu.
Yn ystod ein hymchwiliad, daeth yn amlwg yn gyflym fod sector celfyddydau Cymru yn wynebu heriau amrywiol ac anodd iawn o ran codi arian. Mae sefydliadau celfyddydol yng Nghymru yn wynebu heriau penodol o ran cynyddu eu hincwm, sy’n seiliedig yn bennaf ar raddfa’r sefydliadau hyn a’u lleoliad. Er mwyn i sefydliadau celfyddydol Cymru fod yn llwyddiannus wrth leihau eu dibyniaeth ar gyllid cyhoeddus, mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau eu bod yn gallu gwneud hynny. Mae cwmnïau celfyddydol yng Nghymru yn wynebu llawer o anawsterau nad ydynt mor gyffredin mewn mannau eraill.
O ganlyniad, mae nifer o gamau y credwn y bydd angen i’r Llywodraeth eu cymryd cyn y gall ddisgwyl yn realistig i’r sector ymateb yn effeithiol i’w chais am ddibynnu llai ar gymhorthdal cyhoeddus. Heb gymryd y camau hyn, mae’n anodd dychmygu senario lle na fydd allbwn ac amrywiaeth y sector yn lleihau, yn sgil y lleihad yn y cymhorthdal cyhoeddus.
Oherwydd y nifer fach o fusnesau mawr sydd â phencadlys yng Nghymru, mae denu cymorth busnes yn anodd. Eglurodd Nick Capaldi, prif weithredwr cyngor y celfyddydau, fod nawdd busnes yn fwy cyffredin yn y canolfannau metropolitan ac i gefnogi sefydliadau celfyddydol mwy sydd â phroffil uwch. Ychwanegodd fod sefydliadau cymunedol bach mewn ardaloedd gwledig, er enghraifft, yn ei chael hi’n anodd denu nawdd corfforaethol sylweddol.
Mae codi arian drwy roddion gan unigolion hefyd yn broblem i’r celfyddydau yng Nghymru. Dywedwyd wrthym fod y nifer cymharol isel o unigolion gwerth net uchel yng Nghymru yn gwneud codi arian drwy roddion gan unigolion yn anodd iawn. Yn ychwanegol at hyn, mae’r anhawster a nodwyd gan Ganolfan Celfyddydau Chapter, sef yr her gyson o brofi bod y celfyddydau yn achos elusennol. Tynnodd Blue Canary, sef yr ymgynghoriaeth codi arian ym maes y celfyddydau, sylw at y mater yma hefyd. Dywedodd wrth y pwyllgor fod sefydliadau celfyddydol ar ei hôl hi o ran mentergarwch i gynhyrchu incwm ar draws y sector elusennol ehangach.
Roedd y farchnad hynod gystadleuol ar gyfer arian gan ymddiriedolaethau a sefydliadau yn rhywbeth a ddaeth i’n sylw drwy gydol yr ymchwiliad. Mae sefydliadau preifat yn Ewrop wedi cyfyngu ar y grantiau y maent yn eu rhoi yn ystod cyfnod hir o gyfraddau llog isel. Gan gyfuno hyn â nifer o flynyddoedd o doriadau yn y sector cyhoeddus, mae’n hawdd deall pam mae’r farchnad hon wedi dod mor gystadleuol, wrth i sefydliadau celfyddydol wneud pob ymdrech i adennill yr arian cyhoeddus a gollwyd. Clywsom hefyd y byddai’n well gan ymddiriedolaethau a sefydliadau ariannu prosiectau penodol, yn hytrach na rhoi arian yn lle cyllid refeniw o’r sector cyhoeddus a gollwyd.
Fodd bynnag, er bod y gystadleuaeth am grantiau yn frwd, clywsom fod llawer o ymddiriedolaethau yn Llundain yn dal i fynegi’r awydd i fuddsoddi mwy yng Nghymru, gan nodi bod nifer ac ansawdd y ceisiadau yn isel o hyd. Mae’r sefydliadau hynny sy’n llwyddo yn dueddol o fod yn fwy, gyda mwy o gapasiti i wneud ceisiadau am gyllid.
Yn hyn o beth, pwysleisiodd Canolfan Celfyddydau Chapter bwysigrwydd yr arian cyhoeddus y mae yn ei gael, gan esbonio bod ymddiriedolaethau yn awyddus i gael sicrwydd o weld cefnogaeth gyhoeddus yno. I gyrff cyllido nad ydynt yn gyrff lleol, y gefnogaeth gyhoeddus hon yw’r arwydd cyntaf bod galw lleol am y prosiect perthnasol ac y dylid ei ariannu. Rwy’n credu ei bod yn deg dweud ei bod yn amlwg o’r dystiolaeth a gawsom y bydd y capasiti i ymgeisio am gyllid o ffynonellau preifat yn gostwng wrth i gyllid cyhoeddus leihau.
Mae codi refeniw drwy werthu nwyddau a gwasanaethau yn amlwg yn ffordd arall o gynyddu cyllid sefydliad heblaw cyllid cyhoeddus. Esboniodd Celfyddydau a Busnes Cymru, sy’n cael arian cyhoeddus i feithrin cysylltiadau rhwng sefydliadau celfyddydol a busnes, fod cynnydd cyson wedi bod yn nifer y cwmnïau sy’n chwilio am hyfforddiant yn y celfyddydau i fynd i’r afael ag anghenion datblygu staff. Mae cwmni theatr Hijinx yn un o’r sefydliadau sydd wedi manteisio ar y cyfle hwn. Mae Hijinx bellach yn cyflogi ei actorion, sydd ag anableddau dysgu, i ddarparu hyfforddiant i gwmnïau ynghylch cyfathrebu efo phobl sy’n agored i niwed. Fodd bynnag, mae yna hefyd gwmnïau fel Theatr na nÓg, a esboniodd mai ei gylch gwaith fel elusen yw darparu gwasanaeth nad yw fyth yn debygol o arwain at elw ar fuddsoddiad gan gwmni masnachol.
Yn strategaeth ddiwylliant Llywodraeth Cymru, 'Golau yn y Gwyll', mae wedi cydnabod bod angen i’r sector celfyddydau addasu i ymdopi â llai o arian cyhoeddus. Mae rhaglen wytnwch cyngor y celfyddydau yn un ymgais i wella cynaliadwyedd ariannol y sector diwylliant. Fodd bynnag, dim ond i sefydliadau sy’n cael cyllid refeniw gan y cyngor y mae’r rhaglen hon yn agored. O ganlyniad, rydym ni wedi argymell bod cyngor y celfyddydau yn ystyried ymestyn y rhaglen hon i gynnwys cyrff celfyddydol nad ydynt eisoes wedi’u hariannu gan gyngor y celfyddydau, ac rydym yn falch ei fod yn bwrw ymlaen â gwaith i fynd i’r afael efo’r mater hwn.
Yn ein hadroddiad, rydym wedi nodi nifer o argymhellion i fynd i’r afael â’r anawsterau cyffredinol ac, mewn sawl achos, yr anawsterau penodol iawn sy’n wynebu sefydliadau celfyddydol yng Nghymru wrth geisio cynyddu eu cyllid heblaw cyllid cyhoeddus. Rydym wedi galw ar y Llywodraeth i barhau â’i chefnogaeth ariannol i ddatblygu partneriaethau rhwng busnesau a’r celfyddydau. Rydym wedi argymell bod y Llywodraeth yn cymryd camau i godi proffil y celfyddydau fel achos elusennol, ac i godi ymwybyddiaeth o’r prosiectau a’r sefydliadau celfyddydol ardderchog sydd wedi’u lleoli yma yng Nghymru.
Rydym wedi cynnwys nifer o argymhellion o ran manteisio ar farchnadoedd rhyngwladol. O ystyried y nifer isel o fusnesau mawr ac unigolion gwerth net uchel yng Nghymru, mae’n hanfodol bod y marchnadoedd hyn yn cael eu nodi, a bod sefydliadau’n manteisio arnynt cyn belled ag y bo modd. O ystyried y nifer fach o geisiadau am gyllid sy’n cael eu cyflwyno, a safon isel y ceisiadau hyn ar adegau, rydym hefyd wedi galw ar y Llywodraeth i ddarparu ffynhonnell o arbenigedd i gefnogi sefydliadau celfyddydol bach i wella nifer ac ansawdd eu ceisiadau.
Yn gyffredinol, credwn hefyd fod yn rhaid i’r Llywodraeth, yn ogystal â’r sector, anelu’n uwch os yw’n disgwyl i sefydliadau’r celfyddydau ffynnu gyda llai o arian cyhoeddus. Nid yw galw arnynt i wneud hynny yn ddigon. Mae angen sicrhau bod y lefel briodol a digonol o gefnogaeth wedi’i deilwra yn cyd-fynd â’r alwad, a hynny’n gefnogaeth sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o’r sector.
I gloi, er fy mod yn falch o weld bod y Gweinidog wedi derbyn, o leiaf mewn egwyddor—ac mae hynny'n ddadl eto—ein 10 argymhelliad, rhaid cymryd camau effeithiol a phriodol i gyd-fynd efo’r ymateb hwn. Mewn sawl achos, mae’r Gweinidog wedi dweud y bydd yn gofyn i swyddogion weithio gyda chyngor y celfyddydau i fwrw ymlaen â’r gwaith o gynyddu cyfraniadau. Mae wedi ymrwymo i lunio cynllun gweithredu, ac i gyngor y celfyddydau a Chelfyddydau a Busnes Cymru drefnu seminarau rhanbarthol ar gyfer ymddiriedolaethau a sefydliadau’r Deyrnas Unedig. Rwy’n falch o weld y camau hyn. Bydd y pwyllgor hefyd yn disgwyl adroddiad ar sut mae’r ymdrechion hyn wedi arwain at newidiadau pendant er gwell.
Bydd y pwyllgor yn dychwelyd i’r pwnc hwn nesaf, a gofynnwn i’r Gweinidog baratoi gwerthusiad o’r camau y mae wedi cytuno i’w cymryd mewn ymateb i bob un o’n hargymhellion erbyn y gwanwyn. Dywedodd y Gweinidog wrthym y bydd y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth rhwng y celfyddydau a busnes yn cael ei hadolygu. Dywedodd wrthym y bydd yn pwysleisio i gyngor y celfyddydau yr angen iddo barhau i ddyrannu adnoddau i’r gweithgaredd hwn, o gofio bod y pwysau ar gyllid cyhoeddus yn debygol o barhau yn y dyfodol rhagweladwy. Hoffwn wybod pa gynlluniau sydd ar waith i ddisodli’r gwaith hwn o fis Ebrill 2019 ymlaen os yw cyngor y celfyddydau yn penderfynu nad yw Celfyddydau a Busnes Cymru yn cynnig gwerth am arian. Pe na bai ei waith yn parhau ar ôl mis Ebrill, pa strategaeth fydd yn ei lle i ymateb i hyn? A oes perygl y byddwn yn colli ffynhonnell hanfodol o wybodaeth?
Rhywbeth a wnaethpwyd yn glir iawn i ni yn ystod yr ymchwiliad hwn yw bod llu o unigolion talentog ac angerddol yn rhan o’r sector celfyddydau yng Nghymru. Maen nhw’n haeddu’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ffynnu, ac i ganiatáu i bob un ohonom elwa o’u talentau. Diolch yn fawr.
A gaf fi gymeradwyo ein Cadeirydd dros dro am ei frwdfrydedd wrth gyflawni ei ddyletswyddau dros dro y prynhawn yma? Credaf iddo roi crynodeb rhagorol o'n hadroddiad, a'i bwysigrwydd, ac roedd yn ddechrau gwych i'r ddadl hon.
Credaf fod yr arian nad yw'n arian cyhoeddus y mae'r sector celfyddydau yn ei dderbyn yn arwydd allweddol o'i iechyd, neu fel arall. Ac mae'n bwysig inni ganolbwyntio ar yr agwedd hon. Gŵyr pob un ohonom mai tywysogion teyrnasoedd a thywysogion eglwysig, a ffynonellau cyhoeddus iawn, sydd wedi ariannu’r celfyddydau ar hyd yr oesoedd i raddau helaeth. Ers yr ail ryfel byd, mae hynny wedi newid yn gyngor y celfyddydau a'r Llywodraeth. Ond mae'r swm a ddaw o'r hyn y gallwn ei ddisgrifio'n fras fel y sector preifat yn bwysig tu hwnt yn fy marn i, fel arwydd o iechyd cyffredinol.
Rydym yn sylweddoli ein bod yn wynebu heriau penodol yng Nghymru. Nid Llundain ydym ni, ond serch hynny, nid Llundain yw'r rhan fwyaf o'r Deyrnas Unedig. Ond nid yw llawer iawn o'r egni a'r nawdd y mae hynny'n ei greu drwy'r sector busnes yn llifo'n bell iawn o Lundain, a gall y byd metropolitanaidd sydd â’i ganolbwynt yn Llundain fod yn llyffethair braidd weithiau. Credaf mai rhan o'n gwaith yw herio'r ffynonellau cyllid hynny sy'n fwyaf cyfforddus yn Llundain o bosibl i edrych ymhellach, nid yn unig tuag at Gymru—byddai o fudd iddynt edrych ledled y DU hefyd—ond mae angen inni ddadlau ein hachos yn gadarn. Felly, mae Llundain yn ffynhonnell allweddol ar gyfer cyllid, a chredaf y dylem gofio hynny bob amser yn y gwaith a wnawn a’r gwaith rydym yn disgwyl i'r Llywodraeth ei wneud.
Rydym wedi cael cryn lwyddiant hefyd, megis gydag Opera Cenedlaethol Cymru a gwobr Artes Mundi. Mae gennym rai o'r cysylltiadau gorau gyda'r gymuned fusnes ehangach a ffynonellau nawdd a rhaglenni creadigol iawn. Felly, ni chredaf y dylem ddioddef unrhyw ddiffyg hyder yn hyn o beth.
Credaf mai un o'r meysydd allweddol a amlygwyd yn yr adroddiad o ran yr angen am ddatblygiad yw mwy o hyrwyddo ar lefel ryngwladol. Gall y Llywodraeth yma chwarae rhan fawr a soniai’r adroddiad am deithiau masnach, teithiau cyfnewid diwylliannol. Ac a gaf fi ychwanegu fy mod wedi meddwl yn aml y gallem roi llawer mwy o sylw i'r Mabinogi? Mae cryn lwyddiant wedi bod yn hynny o beth hefyd, ond mae'n un o ganonau pwysicaf llenyddiaeth y byd, ac o ran pwysigrwydd datblygiad diwylliannol Ewrop, mae'n wirioneddol allweddol. Rwyf wedi dyfynnu John Updike sawl tro mewn perthynas â’r pwysigrwydd a roddai i’r Mabinogi, ac roedd yn hyrwyddwr gwych yn ei ddydd, yng Ngogledd America.
Fel y dywedodd y Cadeirydd dros dro, credaf fod angen cryfhau arbenigedd codi arian yn sylweddol. Credaf fod angen i'r sector gydweithredu er mwyn datblygu'r math hwnnw o gryfder, gyda Llywodraeth Cymru o bosibl, fel y gallwn weld y cyfleoedd a chynnig pecynnau cydlynol iawn wrth wneud ceisiadau i arianwyr. Weithiau, credaf nad ydym yn gwneud digon o gydweithredu. Rydym yn credu y bydd angen eu swyddog codi arian eu hunain ar bawb sy’n chwilio am gyllid. Nid wyf yn siŵr ai dyna'r ffordd orau o fynd ati o reidrwydd. Mae angen ymagwedd fwy cydgysylltiedig, a gall hynny roi llawer mwy o gryfder i chi o ran y capasiti a ddatblygwch. Wrth gwrs, mae dyfodol Celfyddydau a Busnes Cymru yn bwysig iawn o ran y gwaith y maent wedi'i wneud ar hyrwyddo cysylltiadau rhwng y celfyddydau a busnesau, a bydd yr hyn a fydd yn digwydd y flwyddyn nesaf, fel y dywedodd y Cadeirydd, yn bwysig iawn.
Rwyf hefyd o'r farn y dylem gofio lle'r arbrofol yn y celfyddydau. Unwaith eto, mae hynny’n arwydd allweddol arall o'i lwyddiant. Mae'n annhebygol y bydd y maes hwnnw'n derbyn llawer iawn o arian nad yw'n arian cyhoeddus, neu arian cyson o leiaf. Felly, nid ydym am anwybyddu hynny ychwaith yn ein brwdfrydedd ynglŷn â ffrydiau ariannol eraill. Rydym angen ymagwedd sy'n caniatáu i ystod eang o gelfyddyd gael lefel o gyllid y mae'n ei haeddu fel y gall ychwanegu at ein bywyd cenedlaethol. Felly, mae’n amlwg y bydd cyllid cyhoeddus yn dal i fod yn hollbwysig.
Hoffwn gloi drwy ddweud hyn: soniwyd yn y ddadl ddiwethaf mewn gwirionedd fod cymuned o Gymry alltud yn bodoli. Weithiau, am nad ydym yn ei hystyried yn gymuned mor fawr ag un Iwerddon neu'r Alban hyd yn oed, rwy'n credu—. Ond edrychwch ar yr Alban: maent wedi gwneud cryn dipyn o waith yn y maes hwn. Credaf y dylem ninnau hefyd fanteisio ar y gymuned o Gymry alltud a’i diffinio o bosibl, a chynnwys y rheini sy'n byw yn Llundain, ond yn rhyngwladol hefyd. Unwaith eto, rwy’n siŵr fod llawer o bobl yno a fyddai’n awyddus i fuddsoddi yn ein celfyddydau, pe baech yn gofyn iddynt. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu am eu hadroddiad a diolch i'r clercod am gynorthwyo gyda'r ymchwiliad. Agorwyd yr ymchwiliad i ariannu'r celfyddydau cyn imi ddod yn aelod o'r pwyllgor, felly, yn anffodus, nid oedd modd imi ymwneud â'r tystion, ond hoffwn ddiolch iddynt hwy hefyd am ddarparu tystiolaeth gadarn.
Ar adeg pan fo cymaint o alwadau'n cystadlu am arian cyhoeddus prin, mae rhai'n credu bod arian cyhoeddus i'r celfyddydau yn foethusrwydd na ellir ei fforddio, ond nid wyf yn un ohonynt. Roedd Cadeirydd ein pwyllgor yn nodi'n gywir fod y celfyddydau'n goleuo ac yn cyfoethogi ein bywydau. Maent yn rhan annatod o'n cymdeithas, ac maent yn creu manteision pellgyrhaeddol i bob un ohonom.
Mae'r swm rydym yn ei wario ar y celfyddydau oddeutu 0.17 y cant yn unig o gyllideb Cymru, ac eto, mae'r celfyddydau nid yn unig yn chwarae rhan hanfodol yn ein heconomi, maent hefyd yn helpu i roi Cymru ar y map. Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru ei hun, mae gennym dros 5,300 o fusnesau creadigol yng Nghymru, sy'n cynhyrchu dros £2.1 biliwn mewn trosiant blynyddol, ac yn cyflogi dros 49,000 o bobl. Mae'r celfyddydau'n atyniad pwysig i dwristiaid, ac yn cynrychioli 32 y cant o'r holl ymweliadau â'r DU a 42 y cant o'r holl wariant a ddaw i mewn sy'n gysylltiedig â thwristiaeth, heb sôn am y ffordd y maent yn cyfoethogi ein lles, sy'n anfesuradwy.
Dros y degawd diwethaf, mae arian cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau wedi'i dorri fwy na 10 y cant, ac mae Llywodraeth Cymru wedi dangos bod mwy o doriadau i ddod drwy ofyn i'r sector leihau ei ddibyniaeth ar arian cyhoeddus. Fodd bynnag, fel y darganfu'r pwyllgor, byddai gwneud hynny'n anodd iawn i sefydliadau celfyddydol. Yn anffodus, nid oes gennym draddodiad dyngarol cryf yn y wlad hon, gan nad yw rhestr The Sunday Times o'r bobl gyfoethocaf yn llawn dynion a menywod o Gymru a chan na allwn ddibynnu ar haelioni biliwnyddion. Mae'n rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd eraill o ychwanegu at gronfeydd sefydliadau celfyddydol Cymru.
Bu'r pwyllgor yn ystyried amrywiaeth o opsiynau, a nod ei 10 argymhelliad yw sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosibl ar gyfer ffynonellau cyllid amgen. Mae'n amlwg iawn fod yn rhaid i'r celfyddydau yng Nghymru barhau i dderbyn cyllid cyhoeddus, ac er mwyn lleihau eu dibyniaeth ar yr arian hwnnw, mae arnynt angen peth cymorth gan y Llywodraeth. Rwy'n falch fod y Gweinidog yn derbyn pob un o argymhellion y pwyllgor, mewn egwyddor o leiaf.
O ran argymhelliad 8, rwy'n falch fod y Gweinidog yn cydnabod pa mor anodd yw hi i sefydliadau celfyddydol bach gyflogi swyddogion codi arian arbenigol ac felly i ddenu rhoddwyr. Mae'r Gweinidog yn dweud y bydd yn gofyn i Gyngor Celfyddydau Cymru edrych yn gadarnhaol ar ymestyn eu rhaglen gydnerthedd, ac annog celfyddydau a busnesau i hyrwyddo opsiynau fel y gallai sefydliadau llai rannu gwasanaethau ac arbenigedd swyddog codi arian proffesiynol. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog fynd ymhellach. Ni ddylem fod yn gofyn neu'n annog; mae'n rhaid darparu'r gwasanaethau hyn, felly dylem fod yn cyfarwyddo ac yn mynnu. Mae mynediad at gronfa a rennir o swyddogion codi arian proffesiynol yn hanfodol os ydym am leihau dibyniaeth sefydliadau celfyddydol ar arian cyhoeddus. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Dafydd Elis-Thomas?
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i aelodau'r pwyllgor am eu gwaith? Mae wedi bod yn bleser cydweithio â nhw. Maen nhw wedi llwyddo i dynnu sylw at yr heriau ariannol sy'n wynebu'r sector celfyddydau yn sgil y pwysau na allwn ni ei wadu ar gyllidebau awdurdodau lleol, ynghyd â'r gostyngiadau diweddar yn incwm o'r Loteri Genedlaethol. Rydym ni'n cydnabod yr heriau yma. Mae'r Llywodraeth yn parhau hefyd i fod yn gwbl ymrwymedig i ariannu'r celfyddydau â chyllid cyhoeddus. Rydym hefyd yn cydnabod nad ydy hi'n debygol y bydd cynnydd sylweddol i'r cyllid hwn yn bosib am rai blynyddoedd, ac felly mae'n hanfodol ein bod ni'n ystyried gyda'n gilydd yr holl ffyrdd posib o helpu'r sector i hybu incwm.
O'r 10 argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad, rydw i'n falch o fod wedi derbyn, neu dderbyn mewn egwyddor, yr wyth sy'n berthnasol i Lywodraeth Cymru. Mae'r adroddiad yn gofyn i Lywodraeth Cymru barhau i ddarparu cymorth ariannol er mwyn annog busnesau a'r celfyddydau i weithio mewn partneriaeth, ac i ystyried a oes angen cyllid ychwanegol er mwyn helpu sector y celfyddydau i ddenu mwy o arian gan fusnesau. Ar hyn o bryd, rydym yn ariannu'r gwaith yma drwy gyngor y celfyddydau drwy ein cyllid cymorth grant. Mae'r cymorth ar gael yn bennaf gan y cyngor ei hun, fel y cyfeiriodd Dai Lloyd wrth agor y drafodaeth yma, a chan Gelfyddydau a Busnes Cymru, sy'n cael cymorth gan y cyngor i ddarparu gwasanaethau penodol.
Rydym ni yn trafod gyda'r cyngor celfyddydau ynglŷn â sut y gallwn ni gyfuno'r cymorth yma. Mae wedi nodi y bydd y cyngor yn parhau i geisio ymestyn y rhaglen gydnerthedd, neu 'gwytnwch' os ydy hynny'n well gennyt ti, yn llwyddiannus. Mae'r rhaglen yma yn rhoi cymorth busnes a chymorth llywodraethiant i sefydliadau celfyddydol allweddol ar gyfer eu hanghenion unigol. Rydym ni hefyd yn awyddus i helpu Celfyddydau a Busnes Cymru i barhau â'r gwaith o annog nawdd corfforaethol ac i ysgogi mwy o bobl i ymwneud â'r celfyddydau ymhob ffordd. Rydw i wedi gofyn i swyddogion drefnu partneriaethau lle byddai peth o gyllid craidd Celfyddydau a Busnes Cymru yn seiliedig ar lefel y buddsoddiad ychwanegol y byddan nhw'n ei sicrhau ar gyfer sector ehangach y celfyddydau. Ond rydym ni'n dal i geisio gwirio'r cynllun yna ar hyn o bryd. Ond rydw i'n meddwl bod y syniad o roi anogaeth i Gelfyddydau a Busnes Cymru a'u gwobrwyo nhw am eu llwyddiant yn gweithio i godi cyllid yn egwyddor ddefnyddiol iawn. Ac rydw i'n gobeithio y byddwn ni'n gallu cadw cyllid yng nghyllideb y flwyddyn nesaf yn benodol ar gyfer hynny.
Roedd yr adroddiad hefyd yn gofyn inni godi ymwybyddiaeth am sefydliadau celfyddydol Cymru a'r buddsoddiad y mae ymddiriedolaethau a sefydliadau ar draws y Deyrnas Unedig yn ei wneud ynddyn nhw. Rydym ni wedi mynd i'r afael â hyn mewn sawl ffordd. Rydym ni wedi gofyn i'r cyngor celfyddydau gymryd yr awenau strategol. Maen nhw eisoes wedi cynnal dau ddiwrnod o gyfarfodydd yn Llundain gyda chynrychiolwyr sefydliadau mawr o'r Deyrnas Unedig, ac mae'r dyddiau yma wedi bod mor boblogaidd fel y byddan nhw yn arwain at ddigwyddiadau pellach yng Nghymru yn ogystal.
Ar ben hynny, mae Celfyddydau a Busnes Cymru wedi bod yn trefnu symposiwm i roi cyngor wyneb yn wyneb i sefydliadau celfyddydol ar y ffyrdd gorau o wneud ceisiadau yn llwyddiannus wrth geisio cyllid. Yn y symposiwm diweddaraf, roedd yna bedair ymddiriedolaeth o Lundain wedi cysylltu â Chelfyddydau a Busnes Cymru er mwyn trefnu dyddiau tebyg eu hunain. Mi fyddaf i hefyd yn cysylltu â'r prif ymddiriedolaethau a sefydliadau drwy'r Deyrnas Unedig i ofyn am eu cefnogaeth nhw i fynd â'r argymhelliad hwn ymhellach, ac yn gwahodd eraill sy'n arbenigo mewn cyflwyno ceisiadau llwyddiannus i wahanol ymddiriedolaethau a sefydliadau i rannu eu profiadau nhw yn ehangach.
Mae'r adroddiad hefyd yn gofyn inni ddatblygu strategaeth i helpu'r sector celfyddydau i ddatblygu'r marchnadoedd rhyngwladol, i gomisiynu ymchwil, i nodi'r marchnadoedd sydd â'r potensial i ehangu fwyaf, ac i sicrhau bod yr elfen ddiwylliannol yn amlwg mewn teithiau cenhadol, mewn teithiau masnach tramor. Rydym ni'n croesawu hyn yn fawr. Yn dilyn y newid yn ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd, mae'n rhaid i Gymru ddatblygu dull a stori newydd i gyfleu ein gwaith rhyngwladol, ochr yn ochr â'r Undeb Ewropeaidd, wrth gwrs. Mae hynny yn dilyn y datganiad o weledigaeth a gawsom ni yn 'Golau yn y Gwyll', a'r pwyslais ar ba mor bwysig yw sicrhau bod pobl yn ymddiddori mewn diwylliant er mwyn dangos yn glir ein bod ni yn wlad gyfoes a diwylliedig sy'n edrych allan, ac yn wlad i ymweld â hi o safbwynt dwristiaeth ac i wneud busnes â hi.
Ym mis Gorffennaf, wrth annerch fforwm celfyddydau rhyngwladol yng Nghaerdydd, fe ges i gyfle i roi her i'r asiantaethau allweddol, gan gynnwys y cyngor celfyddydau, y Cyngor Prydeinig yng Nghymru, a'r cyngor llyfrau, a hefyd yr amgueddfeydd a'r orielau, i gydweithio â ni yn Llywodraeth Cymru er mwyn mynd i'r afael â'r bwriad yma i wella canlyniadau diwylliannol ac economaidd ein gweithgareddau rhyngwladol. Mae'r ymateb i hynny wedi bod yn hynod gadarnhaol, ac mi fydd yna gyfarfod pellach cyn hir i ddatblygu'r gwaith yma.
Fel y pwysleisiodd y pwyllgor, mae cael gwybodaeth arbenigol am godi arian yn hanfodol, yn enwedig ar gyfer sefydliadau celfyddydol llai. Yn y cyfeiriad yma, mae'n bwysig atgoffa unrhyw gwmni celfyddydol neu unrhyw fusnes celfyddydol fod y cymorth sydd gyda ni drwy Fusnes Cymru ar gael iddynt hwythau. Mae'r gwasanaethau yma ar gael i sefydliadau celfyddydol llai i helpu i farchnata, i fanteisio ar eiddo deallusol ac yn y blaen. Ond rydym ni yn derbyn bod angen help mwy arbenigol ar rai agweddau o godi arian, ac mae cyngor y celfyddydau eto yn mynd i'r afael â'r mater yma. Ac mi fydd y cyngor, cyn hir, yn cyhoeddi cynlluniau i helpu sefydliadau llai i ddatblygu ac i godi arian, yn enwedig i'r rheini nad ydyn nhw’n cael arian craidd o fewn cynllun cyngor y celfyddydau.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd wedi rhoi arian loteri i Gelfyddydau a Busnes Cymru er mwyn datblygu'r rhaglen o interniaethau creadigol, i hyfforddi gweithwyr proffesiynol newydd i godi arian. Mi fyddan nhw hefyd yn cefnogi lleoliadau bwrsariaethau yn yr ysgol codi arian ar gyfer y celfyddydau cenedlaethol, ac mae'r cyngor hefyd wedi creu pecyn cymorth briffio ar gyfer sefydliadau codi arian am y tro cyntaf. Mi fydd y gwaith yma'n cael ei ddatblygu, a'r deunydd yma ar gael yn fuan iawn.
Ac yn olaf, rydw i'n dod at fy hoff gorff nad yw eto wedi'i lwyr sefydlu, sef Cymru Greadigol. Ac mae'r pwyllgor wedi gofyn, yn ddigon teg, inni egluro'r nodau o ran sut y byddwn ni'n gweithredu Cymru Greadigol. Mi fydd Cymru Greadigol yn cael ei sefydlu fel asiantaeth fewnol o fewn Llywodraeth Cymru, yn cyfateb, ond nid yn union yn yr un modd, yn ei drefniadaeth fewnol i Cadw a Chroeso Cymru. Rydym ni wrthi ar hyn o bryd yn penodi aelodau i fwrdd cynghori ac mi fydd disgwyl i'r asiantaeth newydd yma weithio mewn partneriaeth agos â Chyngor y Celfyddydau, ac mae'r cyngor, wrth gwrs, yn croesawu hynny.
Rydym ni'n credu y bydd Cymru Greadigol yn gorff a fydd yn gallu datblygu'r potensial economaidd llawnach yn y sector greadigol yn gyffredinol. A gobeithio bod hynny yn ymateb yn weddol lawn i argymhellion gwerthfawr y pwyllgor hwn. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Llywydd. A diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i’r ddadl bwysig yma, ac yn gyntaf i David Melding am ei eiriau caredig a hefyd am olrhain yr hanes, wrth gwrs, achos rydym ni'n sôn am nifer o heriau yn fan hyn yn y maes o godi arian tuag at fudd y celfyddydau. Ac, wrth gwrs, roeddwn yn falch clywed y sôn am y Mabinogion—ddim bob dydd rydym ni'n sôn am y Mabinogion yn y Siambr yma—un o gampweithiau Ewrop, yn wir, yn llenyddol, ac rydw i'n falch bod David hefyd yn cydnabod hynny, ac yn gwneud y pwynt ehangach nad Llundain yw Cymru, yn nhermau codi pres, ond hefyd y dylai fod yr hyder gyda ni i fynd i Lundain ac i fynd ar ôl yr arian, a chael yr hyder ddim jest i fynd i Lundain, ond hefyd yn fwy rhyngwladol, ac yn enwedig yn ymgysylltu efo'r Cymry hynny sydd yn byw dramor—rhan o'r ddadl y gwnaethon ni ei chlywed yn y ddadl gynt. Mae Mark ar ei draed.
Mae'r Mabinogi gwych yn cynnwys y rhamantau Arthuraidd hysbys cyntaf yn y Gymraeg, a ysgrifennwyd, yn hollbwysig, cyn i Sieffre o Fynwy ysgrifennu ei hanesion ffug ar gyfer y llysoedd Normanaidd. A ydych yn cytuno y dylem fod yn hawlio'r straeon hynny'n ôl ar gyfer Cymru?
Yn sicr, ond mae rhai ohonom heb erioed eu colli, felly os ewch yn ddigon pell yn ôl—[Chwerthin.]
Felly, diolch yn fawr iawn, David, yn wir, a hefyd i Mark. A hefyd i Caroline, wrth gwrs, a oedd yn rhoi dadl gref gerbron am werth ehangach y celfyddydau a hefyd y cyfraniad allweddol i dwristiaeth. A hefyd, rydw i'n falch nodi, yn ymateb y Gweinidog, i fod yn deg, ei fod o wedi bod yn ateb ein cwestiynau ni—y rheini y gwnaethom ni eu gosod gerbron. Roedd y Gweinidog hefyd yn olrhain yr heriau a hefyd yn datgan yn glir ei fod o'n parhau i fod yn rhwymedig i ariannu'r celfyddydau cyhoeddus i'r dyfodol, ac, wrth gwrs, ei fod o'n cadarnhau hefyd fod y rhaglen wytnwch yma i barhau. A hefyd rydym ni'n croesawu'r newyddion ynglŷn â Chymru Greadigol. Rydw i hefyd yn ddiolchgar am yr ymateb cadarnhaol i'n hargymhellion. Mae wedi bod yn fodd, drwy'r ddadl yma a'r adroddiad yma, i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y celfyddydau. Rwyf hefyd yn falch o olrhain y gwaith cefnogi y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud y tu ôl i'r llenni, efallai, ddim wastad ynghanol yr holl gyhoeddusrwydd, yn cefnogi'r sawl sy'n gwneud ceisiadau ariannol llwyddiannus.
Ond, i gloi, mae gyda ni lu o unigolion talentog ac angerddol yn gweithio ym maes y celfyddydau yma yng Nghymru. Mae gyda ni lu o Gymry ym mhob man ar draws y byd yn ogystal ag yn y wlad hon sydd â digon o ewyllys da i fod eisiau eu cefnogi nhw hefyd. Felly, mae'n fater o ddod â'r ddau at ei gilydd. Gydag arweiniad gref Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, rydym ni'n disgwyl gweld tro ar fyd wrth ariannu a meithrin cydnerthedd ar gyfer y celfyddydau yma yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.