6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Meithrin Cydnerthedd: Ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 28 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:57, 28 Tachwedd 2018

Diolch yn fawr, Llywydd. A diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i’r ddadl bwysig yma, ac yn gyntaf i David Melding am ei eiriau caredig a hefyd am olrhain yr hanes, wrth gwrs, achos rydym ni'n sôn am nifer o heriau yn fan hyn yn y maes o godi arian tuag at fudd y celfyddydau. Ac, wrth gwrs, roeddwn yn falch clywed y sôn am y Mabinogion—ddim bob dydd rydym ni'n sôn am y Mabinogion yn y Siambr yma—un o gampweithiau Ewrop, yn wir, yn llenyddol, ac rydw i'n falch bod David hefyd yn cydnabod hynny, ac yn gwneud y pwynt ehangach nad Llundain yw Cymru, yn nhermau codi pres, ond hefyd y dylai fod yr hyder gyda ni i fynd i Lundain ac i fynd ar ôl yr arian, a chael yr hyder ddim jest i fynd i Lundain, ond hefyd yn fwy rhyngwladol, ac yn enwedig yn ymgysylltu efo'r Cymry hynny sydd yn byw dramor—rhan o'r ddadl y gwnaethon ni ei chlywed yn y ddadl gynt. Mae Mark ar ei draed.