Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 28 Tachwedd 2018.
O ystyried hyd yr adroddiad hwn a chymhlethdod y mater, er ei fod angen cyngor cyfreithiol wrth gwrs a phobl eraill a fydd yn cynghori ac yn darllen yr adroddiad, oni fyddai'n gwneud synnwyr i'r Prif Weinidog gael yr adroddiad yn awr a chael mwy o amser a chyfle i'w ddarllen, er mwyn rhoi ystyriaeth briodol dros gyfnod angenrheidiol o amser i ba benderfyniad bynnag y bydd yn ei wneud wedyn?