Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 28 Tachwedd 2018.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl heddiw a diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau ystyriol iawn. Hoffwn ddweud ar y cychwyn y bydd y Llywodraeth yn cefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw.
Mae Plaid Cymru yn dadlau'n glir iawn yn eu cynnig y dylid gadael y penderfyniad a ddylid bwrw ymlaen â phrosiect arfaethedig coridor yr M4 o gwmpas Casnewydd i'r Prif Weinidog newydd a benodir ym mis Rhagfyr 2018 ei wneud, yn amodol ar ganfyddiadau ymchwiliad cyhoeddus lleol. Pe bai'r Gorchmynion statudol yn cael eu gwneud, mater i Brif Weinidog newydd a'i Gabinet neu ei Chabinet fydd gwneud penderfyniad yn y pen draw i ymrwymo i gontract adeiladu a fyddai'n galluogi'r cynllun i fynd rhagddo. Fodd bynnag, mae'n bwysig ein bod yn caniatáu i'r broses bresennol sy'n ymwneud â'r Gorchmynion statudol fynd rhagddi, ac yn unol â hynny, mae'n fwriad gan y Prif Weinidog presennol, Carwyn Jones, ar ran Gweinidogion Cymru, i wneud penderfyniad ar y Gorchmynion statudol hynny os yn bosibl o gwbl yn ystod tymor y Cynulliad hwn, ar sail argymhellion a wnaed yn adroddiad yr arolygydd.
Yn amlwg, nid yw'r Prif Weinidog wedi gweld adroddiad yr arolygydd eto, rydym yn aros am gyngor gan y swyddogion, gan gynnwys cyngor cyfreithiol, i fynd gyda'r adroddiad hwnnw er mwyn ei alluogi i wneud y penderfyniad. Ar ôl gwneud y penderfyniad, cyhoeddir adroddiad yr arolygydd ar unwaith. Ac i fod yn glir iawn, oherwydd gwn ein bod wedi cael problemau gydag eglurder hyn, rydym wedi holi beth y mae 'ar unwaith' yn ei olygu mewn cyd-destun cyfreithiol yn y ffordd hon, ac i bob pwrpas, bydd yr adroddiad yn cael ei atodi wrth hysbysiad y penderfyniad sy'n gwneud y Gorchmynion, neu nad yw'n gwneud y Gorchmynion—un ffordd neu'r llall—oherwydd mae'n amlwg y gallwch fynd y naill ffordd neu'r llall gyda'r penderfyniad hwnnw. Ar ôl i hynny ddigwydd, byddwn yn trefnu dadl a phleidlais yn y Cynulliad yn amser y Llywodraeth, os gallwn wneud hynny o fewn ffrâm amser y Llywodraeth hon. Fel y dywedais, byddai'r penderfyniad i ymrwymo i gontract adeiladu rhwymol ar gyfer cyflwyno'r cynllun, pe gwneid y Gorchmynion, yn fater i'w symud ymlaen gan y Prif Weinidog newydd a'i Gabinet neu ei Chabinet yn y flwyddyn newydd.
Lywydd, mae swyddogion Llywodraeth Cymru a dderbyniodd adroddiad yr arolygydd annibynnol, yn dilyn yr ymchwiliad cyhoeddus, wrthi'n paratoi cyngor manwl ar gyfer y Prif Weinidog ar sail yr argymhellion hynny. Bydd y cyngor hwnnw, sy'n cynnwys y cyngor cyfreithiol cymhleth, yn llywio penderfyniad o dan y ddeddfwriaeth berthnasol ynglŷn â gwneud y Gorchmynion statudol ai peidio. Penderfyniad gweithredol i Weinidogion o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 a Deddf Caffael Tir 1981 yw hwn, ac mae'n rhaid iddo fod yn seiliedig ar gynnwys adroddiad manwl a gynhyrchwyd gan arolygydd cynllunio yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus hirfaith. Nid oes unrhyw rôl gyfreithiol o fewn y broses benderfynu honno ar gyfer y ddeddfwrfa. Fodd bynnag, pan fydd proses benderfynu'r Gorchmynion statudol wedi'i chwblhau, byddwn yn cyflwyno'r ddadl yn amser y Llywodraeth fel y gall y Cynulliad fynegi ei farn ar y prosiect.