Part of the debate – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 28 Tachwedd 2018.
Mi wnaf i gloi jest drwy gyfeirio at a diolch i Helen Mary Jones am ei chyfraniad hi. Mae'n berffaith iawn i ddweud bod angen rhwydwaith sefydlog o ffermydd teuluol er mwyn delifro'r canlyniadau economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol, ieithyddol rŷm ni i gyd eisiau eu gweld, ond mae angen, felly, elfen o daliad sylfaenol er mwyn cynnal y sefydlogrwydd hynny, ac mi fuaswn i'n gofyn i bob un fan hyn heddiw i gefnogi cynnig Plaid Cymru.