– Senedd Cymru ar 28 Tachwedd 2018.
Mae hynny'n dod â ni at eitem 8, dadl Plaid Cymru ar daliadau uniongyrchol ar gyfer ffermwyr. Rydw i'n galw ar Llyr Gruffydd i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6881 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r rhan hanfodol y mae cynllun y taliad sylfaenol yn ei chwarae ar hyn o bryd fel sylfaen i hyfywedd y fferm deuluol Gymreig, cymunedau gwledig ac economi ehangach Cymru, a phwysigrwydd taliadau uniongyrchol o ran rhoi sefydlogrwydd mewn cyfnodau o ansicrwydd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod cefnogaeth i ffermio yng Nghymru yn cael ei thargedu at y ffermwyr gweithredol hynny sy’n cymryd y risg ariannol sy’n gysylltiedig â chynhyrchu bwyd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadw elfen o daliadau uniongyrchol ar gyfer ffermwyr wedi Brexit.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser gen i osod y cynnig yma yn enw Plaid Cymru.
Mae'r Llywodraeth, wrth gwrs, yn ddiweddar wedi cyhoeddi dogfen ymgynghorol o'r enw 'Brexit a'n tir', sy'n amlinellu sut y bydd y Llywodraeth yn cefnogi rheolaeth tir ac amaethyddiaeth yn y cyfnod sydd o'n blaenau ni—y cyfnod ôl Brexit, wrth gwrs. Bwriad y Llywodraeth yw cael gwared ar daliadau sylfaenol i ffermwyr a seilio eu cefnogaeth yn y dyfodol ar wneud ceisiadau i ddau gynllun newydd. Mi fyddwn i'n dadlau, fel y mae'r undebau amaeth wedi dadlau, nad dau gonglfaen sydd yna i gynllun y dyfodol, ond bod yna dri chonglfaen angenrheidiol. Ie, cynhyrchiant neu productivity, sy'n cael ei adlewyrchu yn yr elfen o gydnerthedd economaidd o fewn yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei gynnig. Ie, buddiannau amgylcheddol, bioamrywiaeth, rheoli llifogydd ac yn y blaen—y nwyddau cyhoeddus yma sydd hefyd yn cael eu cydnabod mewn elfen o'r hyn sy'n cael ei gynnig gan y Llywodraeth. Ond y drydedd elfen honno sydd ar goll, wrth gwrs, sef elfen sydd yn cynnig sefydlogrwydd a sicrwydd i ffermwyr Cymru mewn hinsawdd mor ansefydlog ac ansicr, ac mae hynny, wrth gwrs, yn dod yn sgil taliad sylfaenol. Felly, ar yr union adeg yng nghanol rhyferthwy Brexit pan fo ffermwyr Cymru wir angen y sicrwydd a’r sefydlogrwydd yna sy’n dod gyda’r taliad sylfaenol, mae Llafur yn bwriadu ei gymryd e oddi arnyn nhw.
Mae Brexit wedi rhoi amaethyddiaeth ar ymyl dibyn, a thrwy ddileu’r taliad sylfaenol, mae Llywodraeth Cymru’n cael gwared ar y rhwyd diogelwch yna sydd o dan ein ffermydd teuluol. Pan fo Llywodraeth yr Alban yn ymrwymo i gadw taliad sylfaenol, pan fo Gogledd Iwerddon hefyd yn debygol o fod yn cadw taliad sylfaenol, pan fo ffermwyr yr holl Undeb Ewropeaidd nid yn unig yn cadw taliad sylfaenol, ond yn symud mwyfwy i’r cyfeiriad yna, mae Cymru yn mynd i’r cyfeiriad arall ac yn dawnsio, i bob pwrpas, i diwn Michael Gove.
Os edrychwch chi ar Fil Amaeth y Deyrnas Unedig, yr hyn gewch chi yn yr adran dros Gymru yw cut and paste o’r cynigion y mae’r Ceidwadwyr yn dod ymlaen ar gyfer Lloegr. Ac mi osodwyd y Bil hwnnw, gyda llaw, cyn bod yr ymgynghoriad ar 'Brexit a'n tir' yn cael ei gwblhau. Mi oedd y ddeddfwriaeth wedi cael ei gosod cyn bod yr ymgynghoriad yn fan hyn wedi cael ei gwblhau. Beth mae hynny’n dweud wrthym ni ynglŷn â pha mor ystyrlon oedd y broses honno?
Mae'r sefyllfa o anwadalrwydd eithafol yn y prisiau yn parhau i effeithio'n fawr ar fusnesau fferm. Mae'n effeithio ar broffidioldeb, wrth gwrs, ond hefyd ar benderfyniadau buddsoddi yn y dyfodol, a digwyddiadau tywydd—wyddoch chi, rydym wedi gweld digon o'r rheini gyda'r gaeaf gwlyb a'r haf sych eleni—clefydau anifeiliaid a phlanhigion, gwrthdaro geowleidyddol, mae'r rhain oll yn ffactorau sy'n effeithio ar gostau cynhyrchu ac enillion yn y farchnad, ac mae mesur sefydlogrwydd cymorth sylfaenol yn hanfodol i wrthsefyll rhai o'r effeithiau hyn. Ond wrth gwrs, mae cynigion y Llywodraeth yn gadael ein ffermwyr yn agored i bob un o'r grymoedd hyn, heb yr amddiffyniad a roddir i'n cystadleuwyr, gyda rhai ohonynt o fewn y DU ac eraill ar draws yr UE wrth gwrs. Fel y dywedais, mae ffermwyr Cymru yn sefyll ar ymyl clogwyn Brexit ac mae Llywodraeth Cymru yn cael gwared ar y rhwyd ddiogelwch sydd gennym oddi tanynt.
Yn ogystal â chael gwared ar y rhwyd ddiogelwch, o dan gynigion Llywodraeth Cymru, bydd y cyllid yn agored i bob rheolwr tir, yn hytrach na rhywbeth a fydd yn berthnasol i ffermwyr gweithredol yn unig. Bydd hyn yn sugno buddsoddiad oddi wrth deuluoedd fferm, ac mae'r arian hwnnw fel y gwyddom, o'i fuddsoddi, yn golygu bod pob punt yn cynhyrchu elw o £7 i'r economi wledig ehangach, ond yn awr, wrth gwrs, gallem weld sefydliadau bancio, cronfeydd pensiwn a ffermwyr economaidd anweithgar nad ydynt yn gwneud unrhyw gyfraniad i'r economi leol neu'r gymuned leol yn elwa o gynigion y Blaid Lafur. Cred Plaid Cymru y dylai unrhyw system newydd ar ôl Brexit gyfeirio cymorth at ffermwyr gweithredol, yn hytrach na gwobrwyo perchnogaeth tir ei hun. [Torri ar draws.] Yn fyr iawn, os gwelwch yn dda. Rwy'n hapus i dderbyn yr ymyriad.
Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. O ran diffinio ffermwyr gweithredol, a ydym yn sôn am y bobl sy'n berchen tir ar hyn o bryd, ond ei fod yn cael ei ffermio'n weithredol gan y tenantiaid mewn gwirionedd?
Wel, yn y bôn, mae'n golygu'r bobl sy'n cymryd risg ariannol; y bobl yn y rheng flaen sy'n gwneud y ffermio ac nid pobl sy'n cael eu gwobrwyo'n unig am eu bod yn digwydd bod yn berchen ar y tir hwnnw.
Cafodd fy mhryderon ynghylch y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi rheoli'r broses hon eu dwysáu hefyd yn ystod y broses o graffu ar y gyllideb a gawsom gydag Ysgrifennydd y Cabinet ychydig wythnosau'n ôl. Gofynnais a oedd dyraniadau yn y gyllideb ar gyfer y modelu y dywedir wrthym yn barhaus y bydd yn digwydd i ddangos bod hwn yn ddull dilys o weithredu. 'Yn benodol, nac oes', oedd yr ateb, ac rwy'n darllen o'r trawsgrifiad yma. Gofynnais wedyn a fyddai'r treialu gofynnol yn cael ei ariannu o'r gyllideb. Wel, nid oes gennym unrhyw gyllideb wedi'i phennu, meddai, ac rwy'n dyfynnu, felly bydd angen inni ddod o hyd i'r arian hwnnw, dywedwyd wrthyf wedyn. Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet:
Mae'n amlwg fod peth lle o fewn ein cyllideb bresennol... ond nid wyf yn gwybod faint fydd ei angen arnom.
Ble mae'r cynllun? Ble mae'r cynllun? Hynny yw, ble mae eich ymagwedd drefnus a chynlluniedig tuag at y newid mwyaf mewn cymorth amaethyddol ers yr ail ryfel byd? Ac nid ydych yn gwybod.
Ond fe wyddoch, wrth gwrs, fod angen y modelu arnom. Cynhaliodd eich rhagflaenydd waith modelu helaeth cyn inni ddechrau trafod opsiynau, fel bod y drafodaeth honno'n deillio o safbwynt gwybodus. Rydym yn gwybod bod angen treialu—rydych wedi dweud hynny eich hun—ar y dull hwn nad yw erioed wedi'i brofi o'r blaen. Ac mae angen gwella'r gwasanaeth cynghori yn sylweddol er mwyn cefnogi'r rheini a allai fod yn cael trafferth i bontio. Ac rydym eto i weld a oes capasiti gan y Llywodraeth i reoli a sicrhau newid o'r maint hwn ac ar y raddfa hon. A oes gennych ddigon o weision sifil i brosesu'r hyn a allai fod yn ddegau o filoedd o geisiadau am y cynlluniau hyn? Nid yw'n syndod eich bod wedi dewis dyddiad dechrau flwyddyn yn ddiweddarach, oherwydd, yn amlwg, mae cynifer o gwestiynau yn dal heb eu hateb. Felly, mae unrhyw hyder a oedd gan y gymuned ffermio yng nghynigion eich Llywodraeth ac yn y modd yr oeddech yn ymdrin â'r broses hon wedi bod yn lleihau wythnos ar ôl wythnos ar ôl wythnos drwy gydol y cyfnod ymgynghori, ers y cyfnod ymgynghori, ac roedd yn amlwg i bawb ei weld a'i glywed yn y ffair aeaf yr wythnos hon.
Felly, daeth yn bryd i'r Llywodraeth hon wynebu'r realiti a chydnabod bod angen iddi gymryd cam yn ôl bellach ac edrych eto ar gynnwys taliad sylfaenol yn rhan o'i chynigion ar gyfer unrhyw gynllun yn y dyfodol. Gall pawb ohonom ddechrau drwy gefnogi cynnig Plaid Cymru yma heddiw.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James.
Gwelliant 1—Julie James
Dileu’r cyfan a rhoi’r canlynol yn ei le:
1. Yn nodi penderfyniad y DU i ymadael â’r UE ym mis Mawrth 2019, gan gynnwys y Polisi Amaethyddol Cyffredin a’i system o gymorth i ffermydd, gan gynnwys Cynllun y Taliad Sylfaenol.
2. Yn cefnogi:
a. addewid Llywodraeth Cymru i barhau i gefnogi ffermwyr er mwyn eu cadw ar y tir a gwarchod ein cymunedau;
b. nod Llywodraeth Cymru i ddylunio’r system orau ar gyfer rhoi cymorth i ffermydd yng Nghymru, a nodwyd yn yr ymgynghoriad diweddar ar Brexit a’n Tir, gan gynnwys buddsoddiad ar gyfer cynhyrchu bwyd a chefnogaeth ar gyfer nwyddau cyhoeddus; ac
c. gwarant Llywodraeth Cymru na fydd unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud i gymhorthdal incwm heb ymgynghori ymhellach, na fydd unrhyw gynlluniau newydd yn cael eu dylunio heb asesiad priodol o’u heffaith, ac na fydd unrhyw hen gynlluniau’n cael eu dileu cyn y bydd cynlluniau newydd yn barod.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gadarnhau ar fyrder na fydd Cymru yn colli ceiniog o gyllid ar gyfer ffermio o ganlyniad i ymadael â’r UE.
4. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gadw Cynllun y Taliad Sylfaenol fel rhan o gyfnod pontio a fydd yn para sawl blwyddyn.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Andrew R.T. Davies.
Gwelliant 2—Darren Millar
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin, ac yn ystod aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd, fod nifer y ffermwyr a cynhyrchiant ffermydd wedi gostwng yng Nghymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r pwerau newydd a fydd yn deillio o'r DU yn ymadael â'r UE i greu cynllun cymorth ffermio a gwledig sy'n gwasanaethu anghenion unigryw yr economi wledig ac amaethyddol yng Nghymru.
Diolch i chi, Lywydd. Croesawaf y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl ac i gynnig y gwelliant yn enw Darren Millar yn ffurfiol.
Un peth y gallem ei wneud wrth ddechrau'r ddadl hon yw diolch i'r miloedd lawer o ffermwyr ar hyd a lled Cymru am y gwaith aruthrol a wnânt yn gofalu am gefn gwlad, boed hynny ar y mynydd, ar yr iseldir, neu bopeth yn y canol. Oherwydd mae Cymru'n enwog am ei hamgylchedd naturiol, ac mae gennym lawer i'w ganmol a'i glodfori, i ddweud pa mor gadarnhaol yw cyfraniad y degau o filoedd o ffermwyr dros y degawdau diwethaf. Roedd hynny'n amlwg i bawb yn ffair aeaf Sioe Frenhinol Cymru, ac yn wir yn Sioe Frenhinol Cymru yn yr haf, lle mae mawredd y sector bwyd ac amaeth yn cael ei arddangos i bawb ei weld. Rydym yn sôn am ddiwydiant yng Nghymru sy'n cynnal trosiant o £7 biliwn a degau o filoedd o swyddi. Ond er gwaethaf yr arian sydd wedi dod o'r polisi amaethyddol cyffredin, un peth na ellir ei danbrisio yw bod nifer lai a llai o bobl o hyd yn gallu gwneud bywoliaeth gynaliadwy oddi ar y tir, a'r ddibyniaeth gynyddol ar y swm o arian sy'n mynd o'r PAC i gadw busnesau rhag mynd i'r wal—mae 80, 90 y cant o'r mantolenni'n dangos mai dyna yw trosiant llawer o fusnesau amaethyddol ar hyd a lled Cymru. O ran y sector prosesu yma yng Nghymru, yn anffodus, mae llawer o'r cynnyrch sylfaenol a gynhyrchwn ar ein tir yn mynd draw i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn y pen draw, neu draw i Ewrop yn wir. Yn sicr, os ydym am gadw gwerth a chynyddu cyfoeth yma yng Nghymru, rhaid bachu gyda'r ddwy law y cyfle hwn i ddyfeisio system gymorth newydd, system newydd o effeithlonrwydd o fewn y sector, fel y gallwn greu diwydiant sy'n caniatáu i bobl ifanc ddod i mewn i'r diwydiant. Ar hyn o bryd, oedran ffermwr ar gyfartaledd yw 62 yma yng Nghymru, ac yn gynyddol, gwelwn lai a llai o gyfleoedd i ffermwyr ifanc ddod i mewn i'r diwydiant, er gwaethaf—roedd Llyr a minnau mewn sesiwn gwestiynau ddydd Llun, ac roedd cefn yr ystafell yn llawn o wynebau ifanc, bechgyn a merched, a oedd yn ceisio creu cyfle yn y diwydiant sylfaenol gwych hwn sydd wedi gwasanaethu ein gwlad mor dda. Ond ni allwn droi ein cefnau ar y cyfle i greu rhywbeth sy'n unigryw yma yng Nghymru, rhywbeth sydd, yn anad dim, yn cynnig y cymorth craidd sydd ei angen ar yr economi wledig a'r economi wledig ehangach wrth i'r cymorth hwnnw fynd i mewn i amaethyddiaeth. Fy mhryder mwyaf ynglŷn ag ymgynghoriad 'Brexit a'n tir', pan fo'r Gweinidog neu Ysgrifennydd y Cabinet yn yr ymgynghoriad hwnnw'n cyfeirio at 'reolwyr tir', yw ein bod yn newid yr hafaliad yn sylfaenol o ran y ffordd y caiff yr arian hwnnw ei ddosbarthu i dderbynwyr sydd heb dderbyn arian o'r gronfa datblygu gwledig yn draddodiadol, na chymorth uniongyrchol i amaethyddiaeth yn wir, ac yn anad dim, sefydliadau nad ydynt o reidrwydd angen y cymorth y byddai'r arian hwnnw yn ei gynnig iddynt i ymgymryd â'r prosiectau a fyddai ar gael o dan amrywiol gynlluniau'r Llywodraeth.
Fel y crybwyllodd y sawl a agorodd y ddadl heddiw, mae'r diffyg modelu ar lawer o gynigion 'Brexit a'n tir' yn peri pryder dwfn, oherwydd, yn sicr, er mwyn rhoi cynigion mewn dogfen i'w hystyried, mae angen inni ddeall a fyddai'r cynigion hynny'n gweithio, ac a fyddai modd eu gweithredu mewn cyfnod cymharol fyr o amser. Pan edrychwch ar rai o'r cynigion ynddo, rydych yn edrych mewn gwirionedd ar fynd o sylfaen o tua 16,000 o dderbynwyr i tua 40,000 neu 45,000 o dderbynwyr o bosibl. Mae honno'n gronfa adnoddau sy'n lleihau'n ofnadwy ac sy'n mynd i ledaenu'n llawer pellach ymysg pobl sydd, fel y dywedais, yn draddodiadol heb wneud defnydd ar y cynllun, ac yn anad dim, pobl a fyddai'n gallu cyflawni llawer o'r prosiectau y maent wedi'u cyflawni'n draddodiadol heb y cymorth hwnnw. Ac felly, rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet, wrth iddi ystyried ei hymatebion i'r ymgynghoriad—ac rwy'n tybio y bydd yr ystyriaeth honno yn cyfyngu ar ei hymateb y prynhawn yma, gan ei bod yn iawn, yn amlwg, fod y 12,000 o bobl sydd wedi cymryd rhan yn yr ymarfer i gyd wedi rhoi eu syniadau amrywiol ar y bwrdd—yn rhoi ystyriaeth lawn i'r cynigion hynny. Ond gallwn gefnogi'r hyn y credwn eu bod yn egwyddorion craidd yr economi wledig, ac un o egwyddorion craidd yr economi wledig yw sector amaethyddol bywiog ac amrywiol, sy'n annog pobl ifanc i ddod i mewn i'r diwydiant, gan ddarparu cynnyrch sylfaenol bwyd a chadwraeth. Oherwydd mae cadwraeth yn ystyriaeth bwysig iawn pan edrychwn ar yr hyn y gall ein tir ei gyflawni yma yng Nghymru. Ac yn hytrach nag edrych ar hyn, fel y soniodd y sawl a agorodd y ddadl, fel ymyl clogwyn i gerdded drosto, rwy'n credu ei fod yn gyfle, yn ddrws i gerdded drwyddo, sydd, fel y mae'r gwelliant yn sôn, yn cyflwyno mwy o gynhyrchiant i mewn i'r diwydiant, yn gwrthdroi'r gostyngiad yn nifer y ffermwyr gweithredol yng Nghymru ac yn anad dim, yn ailfywiogi sector lle mae dirfawr angen ailgydbwyso'r ffordd y mae'n denu enillion mwy o'r farchnad, a bod mwy o enillion o'r farchnad yn cael eu dychwelyd i gât y fferm yn hytrach na'u gadael yn nwylo'r proseswyr a'r manwerthwyr.
Ac felly, rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Gobeithio bod y gwelliant yn cael cefnogaeth, oherwydd credaf ei fod yn ategu'r cynnig sydd ger ein bron. Edrychaf ymlaen at weld y Siambr yn cefnogi'r gwelliant.
Wel, rwy'n mynd i fodloni Andrew R.T. Davies drwy ddweud y byddwn yn cefnogi'r cynnig a'r gwelliannau. A chytunaf â phopeth a ddywedodd Llyr Gruffydd ac Andrew R.T. Davies hefyd.
Rwyf bob amser wedi ystyried bod Brexit yn gyfle i amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae yna her, wrth gwrs—mae unrhyw newid mawr o'r math hwn yn sicr o fod yn her, ond wrth edrych ar y tymor canolig i'r tymor hir, credaf y gall ffermio yng Nghymru elwa'n sylweddol iawn o Brexit, oherwydd mae'n ein galluogi i lunio ein polisi ein hunain wedi'i deilwra'n arbennig ar gyfer Cymru. Ac mae Cymru'n wahanol iawn i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, yn enwedig Lloegr, yn y sector ffermio, ac rwyf wedi nodi o'r blaen mewn cwestiynau i'r Ysgrifennydd amaethyddiaeth—beth bynnag y caiff ei galw bellach—fod y polisi amaethyddol cyffredin yn golygu mwy i ffermwyr yng Nghymru nag y mae'n ei wneud yn Lloegr, oherwydd gall ffurfio hyd at 80 y cant o incwm ffermydd yng Nghymru, tra mai 55 y cant yn unig yw'r cyfartaledd yn Lloegr. Ac mae 85 y cant o'r cymorthdaliadau fferm a delir ar hyn o bryd yng Nghymru o dan golofn 1 yn hytrach na cholofn 2, felly mae hynny'n profi pwysigrwydd mater sefydlogrwydd y cyfeiriodd Llyr Gruffydd ato yn ei araith agoriadol. Gan fod cynllun y taliad sylfaenol mor hynod o bwysig i ffermwyr Cymru, rwy'n credu y bydd symud o ddibyniaeth arno i bolisi arall yn cymryd cryn dipyn o amser i ni. Os oes gennych 85 y cant o'ch arian yn cael ei wario ar hyn o bryd ar ffurf taliad sylfaenol, rwy'n meddwl am rai o'r cynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet mewn golwg—beth y gallent ei gynnwys i gymryd eu lle. Nid oes amheuaeth fod llawer iawn o ansicrwydd yn y sector ffermio wedi'i greu gan gyhoeddiad y Llywodraeth ar ben llanastr Brexit, a grëwyd gan Theresa May. O gofio bod—[Torri ar draws.] Nid oedd gennyf unrhyw ran o gwbl ym mhenderfyniadau Theresa May, yn anffodus, fel arall ni fyddem yn cael cymaint o ddadleuon yn awr o bosibl. Rwyf wedi bod yn berffaith gyson fy marn i ers i mi ymuno â'r Gynghrair Gwrth-Farchnad Gyffredin ym 1967. Felly, mae'n edefyn sydd wedi rhedeg drwy gydol fy mywyd ar ei hyd.
Ond i ddychwelyd at y cynnig, mae hyn yn arbennig o bwysig—sefydlogrwydd i'r rheini sy'n ffermio mewn ardaloedd llai ffafriol, ac mae 80 y cant o ucheldiroedd Cymru yn ardaloedd llai ffafriol, ac mae 84 y cant o'r daliadau hynny'n dibynnu ar wartheg a defaid, ac mae hynny'n hanfodol ar gyfer gwarchod y dirwedd a hybu bioamrywiaeth. Felly, gallaf weld y gall y cynlluniau cadernid a'r cynlluniau nwyddau cyhoeddus gydredeg yn y maes hwn, ond mae'r symiau o arian sydd dan sylw ar gyfer pob ffermwr unigol yn sylweddol ac mae angen dylunio'r cynlluniau'n dda.
Felly, credaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn symud i'r cyfeiriad iawn, ond rwy'n bryderus ynglŷn â pha mor gyflym y gweithredir hyn. A siarad yn gyffredinol, mae cynlluniau'r taliad sylfaenol yn bwydo drwodd i werthoedd tir yn hytrach nag i incwm ffermydd. Mae hynny'n wendid mawr ynddynt, felly credaf ei bod yn iawn symud oddi wrth daliadau sylfaenol. Ond lle mae gennych ffermydd yr ucheldir ac eraill sy'n ymylol ac nad oes modd eu gwneud yn fasnachol go iawn heb ryw fath o gymorth cyhoeddus, rwy'n credu bod angen inni gael rhyw gynllun penodol a luniwyd er mwyn diwallu eu hanghenion. Fel arall, rydym mewn perygl o weld nid yn unig busnesau'n rhoi'r gorau i gynhyrchu ond hefyd y canlyniadau amgylcheddol a fyddai'n deillio o hynny, a byddai'r rheini'n drychinebus. Rwy'n credu bod dad-ddofi tir ar y bryniau'n broblem fawr y mae angen inni ei gwrthdroi. Credaf fod unrhyw beth a allai gyfrannu'n anfwriadol at ddad-ddofi mwy o dir ar y bryniau i'w wrthwynebu.
Mae ffermwyr yn gweithio'n galed iawn am ychydig iawn o enillion o ran incwm. Credaf fod incwm cyfartalog ffermydd oddeutu £23,000 y flwyddyn. Felly, mae'r taliad sylfaenol yn elfen gwbl hanfodol i gadw pobl ar y tir i gynhyrchu bwyd a'r holl ganlyniadau eraill sy'n deillio o hynny. Felly, buaswn yn erfyn ar Ysgrifennydd y Cabinet i beidio â symud yn rhy gyflym i gyfeiriad cymorth taliadau sylfaenol a symud at gynlluniau mwy amgylcheddol, er fy mod yn credu ei bod hi'n symud i'r cyfeiriad cywir. Yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud hefyd, wrth gwrs, yw manteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil Brexit. Os na cheir cytundeb, neu'n fwy cywir, os byddwn yn gadael yr UE ar delerau Sefydliad Masnach y Byd, bydd tariffau enfawr ar fasnach rhwng Prydain a'r UE. Ac o ystyried nad ydym ond oddeutu dwy ran o dair o fod yn hunangynhaliol o ran cynhyrchiant bwyd yn y Deyrnas Unedig, mae hwn yn gyfle enfawr i gynhyrchu yn lle mewnforio, ac mae hynny'n newyddion da i ffermwyr Prydain ac i ffermwyr Cymru yn benodol yn fy marn i.
Nid oes unrhyw amheuaeth fod y diwydiant amaethyddol a ffermydd teuluol yn wynebu'r her fwyaf mewn o leiaf cenhedlaeth oherwydd Brexit a'r ansicrwydd a ddaw yn ei sgil. Ni chredaf y byddech wedi dod o hyd i lawer o bobl yn y ffair aeaf yn gynharach yr wythnos hon a oedd yn gweld hwn fel y cyfle y byddai rhai o'r Aelodau yn y Siambr hon yn hoffi inni ei weld, er bod yn rhaid parhau'n optimistaidd wrth gwrs.
Efallai ei bod hi'n werth atgoffa ein hunain ynglŷn â phwysigrwydd y sector ffermio yng Nghymru. Mae'n sail i gadwyn gyflenwi bwyd a diod gwerth dros £6 biliwn. Mae'n cyflogi 17 y cant o'r gweithlu cenedlaethol, 220,000 o bobl i gyd, gyda 58,000 yn gweithio'n amser llawn neu'n rhan-amser ar ddaliadau fferm, gan wneud amaethyddiaeth yn rhan bwysicach o lawer o economi Cymru nag yw hi yn economi Lloegr. Ffermwyr sy'n rheoli 80 y cant o'r tir yng Nghymru, gan gynnwys 600,000 hectar o ardaloedd amgylcheddol dynodedig. Mae busnesau fferm yn chwarae rhan hollbwysig yn darparu mynediad cyhoeddus at gefn gwlad yng Nghymru, gyda 16,000 o filltiroedd o lwybrau troed, 3,000 o filltiroedd o lwybrau marchogaeth a 460,000 erw o dir mynediad agored—y cyfan yn cael ei ffermio.
Mae 33 y cant o boblogaeth Cymru yn byw yn ein cymunedau gwledig, ac yn allweddol, mae bron 30 y cant o'r bobl a gyflogir mewn amaethyddiaeth yn siaradwyr Cymraeg, y gyfran uchaf o bell ffordd mewn unrhyw ddiwydiant yn ein gwlad. Mae amaethyddiaeth yn darparu sylfaen i'r economi mewn cyfran fawr o'r cymunedau lle mae'r Gymraeg yn dal i fod yn iaith gymunedol naturiol. Gallai canlyniadau bod yn anghywir o ran ein cymorth ôl-Brexit i ffermio—os cawn sefyllfa ôl-Brexit yn y pen draw, ac rwy'n byw mewn gobaith—gallai canlyniadau cael y cymorth hwnnw'n anghywir fod yn drychinebus. Wrth gwrs, nid ydym yn gwadu yn y rhan hon o'r Siambr fod manteision i ddefnyddio peth o'r cymorth a delir i fusnesau fferm ar gyfer darparu nwyddau cyhoeddus uniongyrchol penodol, gan gynnwys nwyddau amgylcheddol, lles anifeiliaid, manteision mynediad—buaswn hefyd yn annog y dylai'r manteision hynny gynnwys edrych, wrth gwrs, ar y cymorth i'r Gymraeg fel iaith gymunedol a pha mor bwysig yw amaethyddiaeth yn hynny o beth.
Ceir cyfleoedd i'w darparu a'u croesawu o'r cynllun cadernid economaidd, ond nid ydym yn credu ei bod yn iawn cael gwared ar y rhwyd ddiogelwch i deuluoedd fferm ar yr adeg hon o ansicrwydd mawr. Mae angen rhwydwaith diogel o ffermydd teuluol i ddarparu'r nwyddau cyhoeddus y mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod am eu gweld, ac y mae pawb ohonom am eu gweld. Mae angen rhwydwaith diogel o ffermydd teuluol i ddarparu sail ar gyfer economi wledig ffyniannus a diogel ledled Cymru, ac mae angen rhwydwaith diogel o ffermydd teuluol i helpu i sicrhau dyfodol i'r Gymraeg fel iaith gymunedol.
Wrth gwrs, mae'r ymgynghoriad wedi cau bellach a bydd y Gweinidog a'i swyddogion yn edrych ar y canlyniadau, ac mae hwn yn gyfle i Ysgrifennydd y Cabinet fyfyrio ac o bosibl ailystyried. Gwn y bu hi yn y ffair aeaf ddydd Llun, a bydd wedi clywed, fel y clywodd Llyr Gruffydd a minnau, faint o bryder sy'n cael ei fynegi gan bobl o gymunedau gwledig ledled Cymru—ac mae'r pryder hwnnw, wrth gwrs, wedi'i waethygu gan broblemau yn y tymor byr sy'n ymwneud â'r amodau hinsoddol anodd iawn rydym wedi'u cael, fel y nododd Llyr Gruffydd. Rydym yn annog Ysgrifennydd y Cabinet heddiw i feddwl o ddifrif am y pryder hwnnw, i feddwl am yr hyn y mae'n ei wneud i ffermydd teuluol, i feddwl am y lefel o bryder ac i gytuno, wrth ymateb i'r ymgynghoriad, i gadw elfen o'r taliad sylfaenol mewn unrhyw gynllun cymorth i ffermydd yn y dyfodol.
Nid yw amaethyddiaeth yng Nghymru yn debyg i amaethyddiaeth yn Lloegr. Mae ein ffermydd yn llawer mwy pwysig i'n heconomi ac i'n cymunedau. Mae Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Gogledd Iwerddon wedi derbyn hyn, a dyna pam y maent yn cadw elfen o'r taliad sylfaenol yn eu cymorth i'w diwydiannau ffermio wrth gwrs. Ac mae eu diwydiannau ffermio yn llawer tebycach i batrwm diwydiannol ffermio yma yng Nghymru: ffermydd bach teuluol. Nid oes gennym lawer o farwniaid barlys wedi'u gor-sybsideiddio yma yng Nghymru, ac nid oes llawer ganddynt yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ychwaith.
Mae ein diwydiant yn llawer tebycach i ddiwydiant y ddwy wlad honno nag i'r diwydiant yn Lloegr. Rwy'n dal i fethu deall pam nad yw'r cynllun cymorth arfaethedig presennol ar gyfer Cymru yn ddim mwy na chopi o'r cynllun yn Lloegr yn y bôn. Rwyf wedi adnabod Ysgrifennydd y Cabinet ers blynyddoedd lawer, ac ni allaf ddychmygu bod llawer o bethau y mae'n cytuno â Michael Gove yn eu cylch, felly pam ar y ddaear y mae hi'n cytuno â Michael Gove ynglŷn â hyn? Mae angen ychydig o gysondeb yma. Mae'r diwydiannau ffermio yng Nghymru a Lloegr mor wahanol.
Lywydd, nid oes dim o'i le ar newid meddwl yn wyneb y dystiolaeth neu newid meddwl yn wyneb sylwadau ystyrlon a dilys. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwrando ar leisiau cymunedau gwledig—nid yw o bwys a yw hi'n gwrando arnom ni, Lywydd, ond mae ei pharodrwydd i wrando arnynt hwy a'r rhai sy'n siarad ar eu rhan yn bwysig—a gall edrych ar yr Alban neu Ogledd Iwerddon os yw hi angen model; hoffem weld model wedi'i wneud yng Nghymru, wrth gwrs. Ac rydym yn ei hannog i roi ychydig mwy o ddiogelwch i'n ffermwyr yn y dyfodol ar ffurf taliadau sylfaenol. Dyma gyfle gwirioneddol iddi wneud y peth iawn.
Mae'n amlwg fod y polisi amaethyddol cyffredin yn gyfrifol am 80 y cant o incwm ffermydd yng Nghymru, a £274 miliwn y flwyddyn mewn taliadau uniongyrchol, felly mae'n bwysig dros ben ein bod yn cael yr olyniaeth a'r pontio'n iawn ar ôl Brexit, a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru dro ar ôl tro wedi gofyn i Lywodraeth y DU ddarparu'r lefelau cyfredol o gyllid yr UE. Dyna a addawodd yr ymgyrch dros adael wedi'r cyfan, gan gynnwys ASau sydd bellach yn eistedd yn y Cabinet, neu a oedd hwnnw hefyd yn addewid arall a aeth ar goll yn y depo? Ond beth am barcio'r bws hwnnw am y tro, gan fod y ddadl hon yn ymwneud â ble a sut, ac i ba raddau y dylid gwario'r arian hwnnw ar ôl Brexit.
Mae'n amlwg i mi mai'r egwyddorion sylfaenol o anghenraid yw bod yn rhaid i arian cyhoeddus gyflawni budd cyhoeddus. Ac mae hi yr un mor glir i mi y gallai'r system bresennol wneud yn well i sicrhau'r prawf hwnnw o ran y nwyddau amgylcheddol. Er enghraifft, yn 2016, dangosodd adroddiad 'Cyflwr Natur 2016' fod 52 y cant o'r rhywogaethau tir fferm a gâi eu monitro wedi gweld gostyngiad ers y 1970au, fod ansawdd pridd ar draws yr holl gynefinoedd, ar wahân i goetir, wedi dirywio, ac nad yw 63 y cant o'r holl ddŵr croyw yn cyrraedd statws 'da'. A llynedd, gwelsom y lefelau uchaf erioed o lygredd, ac rwyf wedi codi hynny yn y Siambr hon dro ar ôl tro, ein bod yn gweld lefelau cynyddol o amonia o amaethyddiaeth, ac mae hynny'n effeithio ar ansawdd aer.
Nawr, rwyf am fod yn glir yma, oherwydd nid wyf yn awgrymu am un funud fod pob ffermwr yn llygrwr, ond mae yna faterion yn codi o ran arferion ffermio a'r arian sy'n cael ei dderbyn sy'n gwaethygu'r sefyllfa hon. Felly, y ffaith amdani yw bod y PAC wedi creu system sy'n sylfaenol annheg ac sydd o fudd i un grŵp o reolwyr tir ac yn eithrio eraill. Hyd yn oed ym maes cynhyrchu bwyd, ceir anghysonderau amlwg, ac nid yw garddwriaeth yn gymwys i gael cymorth, ac un enghraifft yn unig yw honno. Felly, yr hyn y dymunwn ei weld wrth symud ymlaen yw ein bod yn gwrthdroi rhai o'r ffigurau rwyf newydd eu dyfynnu, ein bod yn yr un modd yn cefnogi ac yn ymwybodol o anghenion tyddynnod, sydd wedi'u crybwyll yma dro ar ôl tro, ein bod yn atal ffermio dwys, oherwydd gallai hynny fod yn un o ganlyniadau system sy'n newid, a'n bod yn diogelu anghenion ffermydd mynydd, ac rwy'n cytuno â llawer sydd wedi'i ddweud yma y bore yma.
Felly, rwy'n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a fydd Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd cynigion ar gyfer rhaglen rheoli tir newydd o'r math hwnnw. Ac rwy'n gobeithio y gallwn gael rhywfaint o gytundeb y dylai'r system fod yn agored i bob rheolwr tir ond bod system glir o dan hynny sy'n cyrraedd y nodau y gobeithir amdanynt. Rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedwyd yma y prynhawn yma, wrth gwrs, ac nad ydym yn gwanhau pot a allai fod yn lleihau fel na chawn y canlyniadau y gobeithiwn amdanynt. Ac yn y pen draw, un o'r canlyniadau hynny fydd yr angen i gynhyrchu bwyd yn effeithlon ond ar yr un pryd, mae angen inni ddatblygu ffrydiau incwm newydd sy'n amddiffyn ac yn cynnal ein treftadaeth naturiol.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Diolch, Lywydd. Bydd y DU yn gadael y polisi amaethyddol cyffredin pan fyddwn yn gadael yr UE, ac rwyf wedi egluro ar sawl achlysur cyn, yn ystod ac ers ein hymgynghoriad 'Brexit a'n tir', fel y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud, nad cynllun y taliad sylfaenol yw'r ffordd iawn o gefnogi ffermwyr ar ôl Brexit. Mae'n gyfnod o ansicrwydd mawr, ac mae pawb ohonom yn cytuno bod angen cymorth ar ffermwyr Cymru i ymateb i heriau Brexit. Dyma'r unig ffordd o gadw ffermwyr ar y tir ac amddiffyn ein cymunedau. Nid yw taliadau uniongyrchol yn arf digon miniog i ddatblygu sector amaethyddiaeth cynhyrchiol a chystadleuol. Nid ydynt yn cymell gwelliannau o ran cynhyrchiant, ac nid ydynt yn caniatáu hyblygrwydd i ffermwyr ymateb i anwadalrwydd. Nid oes cysylltiad o gwbl rhwng cynllun y taliad sylfaenol a chynhyrchiant, ymdrech ffermwyr na chanlyniadau ar lawr gwlad. Rhaid inni gefnogi ffermwyr mewn ffordd well.
Mae'r problemau a brofwyd gan ffermwyr eleni o ganlyniad i'r gaeaf gwlyb a'r haf poeth a sych yn dangos diffyg cadernid ar draws y diwydiant a'r angen i dargedu cymorth yn well nag y gall cynllun y taliad sylfaenol ei wneud. Yn ystod yr haf, bu'n rhaid i undebau ffermwyr droi unwaith yn rhagor at Lywodraeth Cymru am gymorth ychwanegol i'w haelodau. Yn syml iawn, nid yw cynllun y taliad sylfaenol yn mynd i'r afael yn ddigonol ag anwadalrwydd yn y ffordd y byddai rhai sylwebyddion am inni gredu. Dyna pam rydym yn cynnig newid i gynlluniau sy'n targedu'n well, gyda dau gynllun gwahanol wedi'u hamlinellu yn ein hymgynghoriad. Bydd y cynlluniau arfaethedig yn darparu ffrwd incwm ystyrlon ar gyfer darparu nwyddau cyhoeddus, nwyddau amgylcheddol na fyddant byth yn diflannu, a byddant yn darparu buddsoddiad wedi'i dargedu i ysgogi gwelliannau mewn cynhyrchiant a hyblygrwydd, gan wneud busnesau fferm yn fwy gwydn. Yn allweddol, bydd hyn yn helpu ffermwyr i addasu eu busnesau i ymdopi ag amrywiaeth o amgylcheddau masnachu posibl mewn ffordd na fyddai taliadau uniongyrchol yn ei wneud, a gallaf sicrhau'r Aelodau fod y 12,000 o ymatebion a ddaeth i law yn cael eu dadansoddi'n fanwl iawn ar hyn o bryd.
Mae'r rhai sy'n awyddus i wneud y dewis hawdd a hyrwyddo'r status quo yn unig yn diystyru'r ffaith bod ffermwyr Cymru yn dibynnu ar gefnogaeth trethdalwyr am 81 y cant o incwm eu busnes fferm ar gyfartaledd. Rwyf fi, a llawer o'r ffermwyr y byddaf yn siarad â hwy, yn awyddus i fod yn llawer mwy uchelgeisiol na bwrw iddi'n slafaidd i weithredu dull sy'n amlwg heb weithio. Ac mae Neil Hamilton yn ei gyfraniad—ar wahân i'r eironi a fethodd yn llwyr—i'w weld yn credu bod hyn yn gyflawniad. Wel, nid wyf fi, ac mae'r ffermwyr rwy'n siarad â hwy'n cytuno.
Ni fyddwn yn cefnogi'r cynnig gwreiddiol. Gan droi at y gwelliannau, rwy'n cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr. Bydd dyluniad y cynllun yn adlewyrchu'r cyd-destun unigryw yng Nghymru. Bydd cynlluniau arfaethedig yn helpu'r sector ffermio yng Nghymru i dyfu'n gryfach, i ddod yn fwy cynaliadwy a chynyddu nwyddau cyhoeddus i holl ddinasyddion Cymru. Yn y cynnig gwreiddiol, rwy'n nodi cyfeiriad Plaid Cymru at ffermwyr gwethredol, ac rwy'n bendant am weld arian yn mynd i'r bobl sydd wrthi'n weithredol yn sicrhau'r canlyniadau rydym eu heisiau. Nid yw cynllun y taliad sylfaenol yn gysylltiedig â'r canlyniadau hyn, na'u cynhyrchiant na'u hymdrech, fel y dywedais, ac nid wyf yn gweld sut y gallwn gytuno bod hyn yn deg i ffermwyr gweithredol. Ac nid wyf yn credu y dylem fod yn rhoi'r prawf ffermwr gweithredol presennol ar bedestal. Mae angen inni wneud yn llawer gwell, ac rydym am gael system lle mae'r bobl sy'n gwneud y gwaith ac yn ysgwyddo'r risg yn cael y budd. Yn yr ymgynghoriad, gwahoddais safbwyntiau ar gamau i sicrhau y gall tenantiaid wneud defnydd o gynlluniau newydd, ac rwy'n ymrwymedig i barhau i archwilio sut i gefnogi holl ffermwyr Cymru.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ailadrodd na fydd newidiadau i daliadau yn cael eu gweithredu heb ymgynghori pellach ac ni fydd hen gynlluniau yn cael eu diddymu hyd nes y bydd cynlluniau newydd yn barod. Ac fel rhan o'r ymrwymiad hwn, cyhoeddais ddydd Llun y bydd cynllun y taliad sylfaenol yn parhau heb ei newid yn 2020, er mwyn rhoi rhywfaint o sicrwydd i ffermwyr mewn cyfnod ansicr. I gynorthwyo gyda'r pontio arfaethedig i gynlluniau sy'n targedu'n well, rwy'n bwriadu ymestyn llawer o'r contractau Glastir presennol am gyfnod cyfyngedig, yn amodol ar gytundeb y Comisiwn Ewropeaidd. Bydd y dull hwn yn cynnal canlyniadau amgylcheddol yn ystod y cyfnod interim ac yn sicrhau pontio di-dor rhwng cynlluniau amaeth-amgylchedd presennol a chynlluniau nwyddau cyhoeddus y dyfodol. Yn dilyn hyn, rwy'n argymell cyfnod pontio amlflwydd graddol, i sicrhau bod ffermwyr yn cael digon o amser i addasu i'r dull newydd. Bydd hyn yn helpu ffermwyr i baratoi eu busnesau i ffynnu mewn amgylchedd masnachu ôl-Brexit.
Os caf godi un neu ddau o sylwadau a wnaed gan yr Aelodau, a dweud wrth Llyr Huws Gruffydd—mae'n gwybod yn iawn y byddwn yn cael ein polisi amaethyddol Cymreig ein hunain. Fodd bynnag, er mwyn talu cynlluniau'r taliadau sylfaenol, cyn inni gael y ddeddfwriaeth honno, rwyf angen y pwerau dros dro hynny o Fil Amaethyddiaeth y DU. Fe wyddech hynny'n dda iawn. Felly, dyna oedd un o'r rhesymau pam ein bod wedi gorfod edrych ar bwerau pontio. Fel arall, ni fyddem yn gallu talu dim i ffermwyr.
Soniodd Andrew R.T. Davies am bobl ifanc, ac os edrychwch yn ôl dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf, rwy'n credu fy mod wedi gwneud llawer iawn o waith gyda phobl ifanc. Rwy'n cyfarfod â Cenhedlaeth Nesaf yr NFU yfory eto. Os edrychwch ar y cynlluniau a gyflwynais, rwyf wedi cael—. Rwyf wedi'i gwneud yn flaenoriaeth i annog pobl ifanc i mewn i'r byd amaeth.
Helen Mary Jones, yn sicr nid wyf yn cytuno â phopeth y mae Michael Gove yn ei wneud, ac os edrychwch, nid copi yw hwn. Mae ein cynllun yn rhoi llawer mwy o bwyslais ar gynhyrchu bwyd, er enghraifft, nag yn Lloegr. Felly, gwn fod llawer o amwysedd ynghlwm wrth Brexit. Mae'n caniatáu inni ddatblygu system gymorth bwrpasol i harneisio gwerth tir Cymru a sicrhau sector amaeth ffyniannus a gwydn yng Nghymru, ac rwy'n siŵr fod pawb ohonom am weld hynny. Diolch.
Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl.
Diolch. Mae amser yn brin, felly fe soniaf yn unig am un neu ddau o'r pwyntiau a wnaed. Rydych yn sôn, Ysgrifennydd y Cabinet, am ddiffyg gallu i wrthsefyll y tywydd. Efallai fod rhywbeth yn hynny; mae yna bob amser le i wella. Ond wrth gwrs, mae natur ffermio yn golygu eich bod bob amser yn agored i dywydd ni waeth pa mor wydn yw eich busnes. A yw'r ffon fesur honno'n un a ddefnyddiwch mewn perthynas â'r cartrefi a'r busnesau a ddioddefodd lifogydd yn dilyn storm Callum hefyd, am nad ydynt mor wydn ag y gallent fod efallai? Pe gallech ddyfeisio ffordd o wneud rheoli'r tywydd yn nwydd cyhoeddus, yna buaswn gyda chi bob cam o'r ffordd o ran cyllido rhai o'r cynlluniau hyn, ac wrth gwrs, bydd newid yn yr hinsawdd yn gwneud y digwyddiadau tywydd hyn yn fwy eithafol byth. Felly, a ydych yn codi'r bar flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn? Felly, wyddoch chi, rwy'n credu y gallwn daflu'r llinellau hyn allan, ond o ddifrif, rhaid iddynt fod yn llawer mwy ystyrlon na hynny yn fy marn i.
O ran y gwelliannau, yn fyr iawn iawn, ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth, oherwydd, yn amlwg, mae'n dileu ein cynnig cyfan, ac nid dyna'r agwedd rwy'n ei chefnogi fel arfer o ran cynigion Plaid Cymru. Rydych wedi cyhoeddi blwyddyn o oedi, wrth gwrs, cyn cyflwyno newidiadau, ond wrth gwrs, nid ydych wedi cyhoeddi newid cyfeiriad. Felly, o'm rhan i, er mor galonogol yw'r oedi, byddai'n llawer gwell gennyf pe baech yn cymryd cam yn ôl ac yn ailystyried eich dull o weithredu, fel yr awgrymais yn fy sylwadau agoriadol.
Ac o ran gwelliant y Ceidwadwyr, ymddengys eich bod yn rhoi llawer o fai ar y PAC. Yn amlwg, nid yw'r PAC yn berffaith, ond ni fuaswn eisiau dychmygu beth fyddai'r sefyllfa heb y PAC, lle mae mwy na hanner ein busnesau wedi dibynnu arno. Ac ymddengys bod yna awgrym y bydd y byd yn llawer gwell yn sgil Brexit. Nawr, gwn eich barn ar hynny, wrth gwrs, ac roedd yr holl ddadansoddi—[Torri ar draws.] Na. Na, na wnaf, dau funud yn unig sydd gennyf. Roedd yr holl ddadansoddi a welais gan Ysgol Economeg Llundain ddoe a'r Trysorlys heddiw yn awgrymu'n bendant iawn ein bod yn mynd i fod yn waeth ein byd o ganlyniad i Brexit.
Mi wnaf i gloi jest drwy gyfeirio at a diolch i Helen Mary Jones am ei chyfraniad hi. Mae'n berffaith iawn i ddweud bod angen rhwydwaith sefydlog o ffermydd teuluol er mwyn delifro'r canlyniadau economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol, ieithyddol rŷm ni i gyd eisiau eu gweld, ond mae angen, felly, elfen o daliad sylfaenol er mwyn cynnal y sefydlogrwydd hynny, ac mi fuaswn i'n gofyn i bob un fan hyn heddiw i gefnogi cynnig Plaid Cymru.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.