1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 4 Rhagfyr 2018.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am welliannau i wasanaethau cymdeithasol pobl hŷn yng Nghymru? OAQ53040
Mae pobl hŷn ag anghenion gofal a chymorth yn haeddu i'r anghenion hynny gael eu diwallu'n llawn. Dyna pam yr ydym ni wedi dyrannu £10 miliwn yn ychwanegol y gaeaf hwn i'r gwasanaethau cymdeithasol i ysgogi gwelliant i wasanaethau a sicrhau gwell canlyniadau i bobl hŷn ledled Cymru.
Diolch yn fawr am yr ateb yna. Nawr, yn naturiol, mae mynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd yn un o amcanion datganedig eich Llywodraeth chi. Fodd bynnag, mae toriadau ariannol gan eich Llywodraeth i awdurdodau lleol yn golygu bod cynghorau ar draws Cymru yn ei chael hi'n fwyfwy anodd diogelu gwasanaethau rheng-flaen, fel gwasanaethau cymdeithasol pobl hŷn. Rydym ni'n clywed am gau canolfannau dydd, unigolion yn wynebu taliadau uwch am wasanaethau, gostyngiadau yn y ddarpariaeth pryd ar glud, a lleihad mewn gwasanaethau cyfeillio. Pryd fydd eich geiriau cynnes chi, felly, fel Llywodraeth ar fynd i'r afael ag unigrwydd yn trosglwyddo yn ymrwymiadau cadarn ar ffurf arian i'n llywodraeth leol?
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. A dyna pam, y flwyddyn nesaf, y bydd gwasanaethau gofal cymdeithasol awdurdodau lleol yn cael £50 miliwn yn ychwanegol—£20 miliwn o hynny yn rhan o'r grant cymorth refeniw llywodraeth leol, a'r £30 miliwn arall fel grant penodol o'r gyllideb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Yn benodol, hefyd, rydym ni wedi ystyried materion cynhwysiant digidol yn ymwneud â phobl hŷn, ac rydym ni wedi cyhoeddi rhaglen gwerth £6 miliwn i edrych yn benodol ar anghenion gwasanaeth gofal iechyd i sicrhau ein bod ni'n cael gwell sgiliau digidol ymhlith pobl hŷn, gan ei bod hi'n sicr bod swyddogaeth i'w chyflawni gan ddinasyddion sydd wedi'u galluogi'n ddigidol yn hynny o beth.
Arweinydd y tŷ, mae pryderon adroddiadau diweddar gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, mai un o'r risgiau allweddol i ddarpariaeth eu gwaith cynllunio i wrthsefyll pwysau'r gaeaf yw'r gallu i sicrhau nifer ddigonol o staff gofal cartref, yn enwedig dros gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd, i gynorthwyo darpariaeth eu cynllun wrth gefn eu hunain yn peri pryder mawr. Nawr, rydym ni i gyd yn gwerthfawrogi'r staff iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gweithio'n ddiflino i ofalu am ein cenedl ac sy'n cefnu ar eu bywydau teuluol eu hunain dros gyfnod y Nadolig i staffio ein gwasanaethau. Fodd bynnag, o ystyried bod pwysau ar y gweithlu yn y meysydd hyn eisoes, mae'n debygol y bydd y gweithlu presennol yn dioddef mwy o bwysau fyth, a allai gael effaith uniongyrchol ar ansawdd y gofal y mae pobl yn ei gael ac ar y rhai sy'n darparu'r gofal. Nawr, mae'n hanfodol bod gwasanaethau yn cael eu staffio yn ddiogel i gynorthwyo ein pobl agored i niwed yn eu cartrefi ac i leihau derbyniadau i'r ysbyty y gellir eu hosgoi. Pa waith ydych chi'n ei wneud, neu eich Llywodraeth, yn union, gyda bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, a'n hawdurdodau lleol, i sicrhau bod gallu'n cael ei ddatblygu yn y meysydd hyn i wrthsefyll pwysau i sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu staffio'n ddiogel trwy gyfnod y Nadolig ac nad ydym ni'n gweld unrhyw un yn syrthio drwy'r rhwyd ar yr adeg benodol hon o'r flwyddyn?
Fel y dywedais, er gwaethaf y gyllideb cyni cyllidol yr ydym ni wedi ei chael, yn y nawfed flwyddyn o gyni cyllidol hyd yma, rydym ni wedi gallu cyfrannu £50 miliwn yn ychwanegol—£20 miliwn drwy'r grant cymorth refeniw llywodraeth leol, a'r £30 miliwn arall fel grant penodol gan y gwasanaethau iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol—i sicrhau'r math o allu i wrthsefyll pwysau y mae'r Aelod yn ei drafod. Hefyd, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ei ddatganiad yn ddiweddar ar wrthsefyll pwysau'r gaeaf yn hyn o beth, ac rydym ni'n gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr, o ystyried y cyni cyllidol yr ydym ni wedi bod yn ei ddioddef am yr holl gyfnod hwn, bod gennym ni adnoddau digonol i'w cyfrannu. Dyna pam yr ydym ni'n ariannu iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfradd uwch y pen nag y mae Lloegr yn ei wneud, er enghraifft, am yr union resymau a amlinellwyd ganddi hi.
Arweinydd y tŷ, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £15 miliwn ychwanegol o gyllid i helpu i gynyddu cydweithio rhwng rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd i gynorthwyo oedolion ag anghenion gofal yn eu cartrefi. Arweinydd y tŷ, pa wahaniaeth fydd yr arian ychwanegol hwn yn ei wneud i osgoi derbyniadau diangen i'r ysbyty, i ddychwelyd cleifion i'w cartrefi, ac i gynorthwyo ansawdd bywyd i ofalwyr ledled Cymru?
Mae'r Aelod yn llygad ei lle; dyna'n union y mae'r arian ychwanegol ar ei gyfer. Dim ond i roi dwy enghraifft i chi, ym Mae'r Gorllewin, mae buddsoddiad o £5 miliwn wedi cynorthwyo amrywiaeth o wasanaethau gofal canolraddol. Hyd yn hyn eleni, llwyddwyd i osgoi dros 900 o dderbyniadau i'r ysbyty ac arbedwyd 10,000 o ddiwrnodau gwely, gan arwain at osgoi costau o fwy nag £1 filiwn. Ac, yng Nghwm Taf, er enghraifft, dros £1.8 miliwn i barhau i ddatblygu'r gwasanaeth 'cadw'n iach gartref'. O ganlyniad i'r gwasanaeth hwnnw, mae derbyniadau brys ymhlith cleifion 61 oed a hŷn wedi lleihau'n sylweddol. Y llynedd, er enghraifft, llwyddwyd i osgoi 13,000 o ddiwrnodau gwely, sy'n cyfateb i £1.6 miliwn mewn arbedion ariannol. Gallwch weld bod y buddsoddiad yn talu ar ei ganfed i bawb, a dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'r math hwnnw o ofal deuol.