Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Felly, unwaith eto, nid wyf i'n credu ein bod ni mewn sefyllfa amhosibl. Rydym ar bwynt penodol mewn proses o wneud penderfyniad sy'n gymhleth iawn. Mae'r Aelod yn tynnu sylw at rai o'r cymhlethdodau. Nid wyf i wedi gweld adroddiad yr arolygydd cynllunio lleol. Mae angen i'r adroddiad hwnnw gael ei ategu gan y cyngor priodol. Mae angen i'r penderfynwr priodol gymryd hwnnw i ystyriaeth, ac, ar yr adeg honno, rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn gallu codi nifer o bwyntiau. Mae ef wedi codi rhai ohonyn nhw heddiw. Mae pwyntiau o bob rhan o'r Siambr, rwy'n siŵr, a fydd yn cael eu codi yn y ddadl ar yr adeg briodol. Nid nawr yw'r adeg briodol.