Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 4 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:41, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Arweinydd y tŷ, fis yn ôl, dywedasoch wrthym y byddai pleidlais ystyrlon a therfynol ar ffordd liniaru 14 milltir yr M4 yn cael ei chynnal yma yr wythnos hon. Ac eto, gan guddio y tu ôl i adroddiad yr arolygwyr, a dderbyniwyd gan eich Llywodraeth ym mis Medi, rydych chi'n dal i fod wedi eich parlysu gan raniadau ymhlith aelodau eich meinciau cefn, gan wrthwynebiad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru a chan anallu neu amharodrwydd ymddangosiadol y Prif Weinidog i wneud y penderfyniad hwn. Onid yw'r oedi hwn ynghylch y penderfyniad buddsoddi mwyaf y bu'n rhaid i'ch Llywodraeth ei wneud erioed yn nodweddiadol o'r dagfa wrth wraidd eich Llywodraeth?