Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Wel, ni allwn anghytuno mwy ag ef. Rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod y tymor Llywodraeth hwn, ac rydym ni'n ffyddiog y caiff hyn ei gyflawni mewn partneriaeth â'r sector tai. Mae'r buddsoddiad hwnnw yn cynnwys ein cefnogaeth i Cymorth i Brynu, a thrwy hynny mae ein buddsoddiad o £460 miliwn wedi helpu dros 17,800 o ymgeiswyr hyd yn hyn i gael mynediad at berchentyaeth. Rydym ni'n cydnabod potensial y sector mentrau bach a chanolig i adeiladu mwy os yw'r cyllid sydd ei angen ar gael iddynt, ac, felly, mae Banc Datblygu Cymru yn darparu £70 miliwn ar gyfer BBaChau drwy ein cronfa datblygu eiddo a'n cronfa safleoedd segur.
Dywedaf hyn wrtho: os ydych chi'n credu mai'r ateb i adeiladu mwy o gartrefi yw cael coelcerth o reoliadau rheoli datblygiad ledled Cymru, yna ni allwn anghytuno mwy â chi, ac mae'n amlwg iawn, os edrychwch chi ar y dystiolaeth, bod eich cyd-Aelodau Torïaidd ar awdurdodau cynllunio lleol hefyd yn cytuno â mi ac nid â chi.