Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Gallem, rydym ni wedi archwilio'r holl ddewisiadau hynny ar gyfer gweithio unfed ganrif ar hugain yn rhan o'n cynllun gweithredu economaidd, o dan ein strategaeth gyffredin 'Ffyniant i Bawb'. Rydym ni mewn cysylltiad agos â nifer fawr o'n cwmnïau angori a chwmnïau o bwys rhanbarthol ynghylch gwahanol arferion gwaith. Mae'n rhaid imi ddweud, rwyf i wedi gweld rhai enghreifftiau rhagorol o hynny ledled Cymru, ac rydym ni wedi cael arloeswyr gwirioneddol ar gyfer y math hwnnw o arfer. Mae gennym ni gynllun hefyd ar gyfer Llywodraeth Cymru o swyddfeydd wedi'u dosbarthu a gweithio o gartref. Rydym ni wedi buddsoddi swm sylweddol o arian mewn offer TG modern i alluogi hynny, ac rwy'n falch ein bod ni'n esiampl o ddifrif iawn yn hyn o beth.