Y Comisiwn Gwaith Teg

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 4 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:10, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Gallaf. Rydym ni wedi gofyn i'r Comisiwn Gwaith Teg gymryd holl strategaethau'r Llywodraeth i ystyriaeth yn eu gwaith, ond maen nhw'n gweithredu ar eu pennau eu hunain. Maen nhw'n casglu tystiolaeth ar hyn o bryd. Maen nhw'n cael eu cynorthwyo gan ysgrifenyddiaeth fach o Lywodraeth Cymru, ond rydym ni wedi gofyn iddyn nhw ystyried y sefyllfa yn gyffredinol ac i ddweud sut orau y gellir cyfuno'r sefyllfa honno gyda'n cyfres bresennol o flaenoriaethau a strategaethau, a'r hyn y mae angen i ni ei wneud er mwyn gwneud i'r jig-so hwnnw ffitio orau.