1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 4 Rhagfyr 2018.
6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y bydd y Comisiwn Gwaith Teg yn cyfrannu at gyfleoedd cyflogaeth gwell yng Nghymru? OAQ53028
Gwnaf, mae'r Comisiwn Gwaith Teg wrthi'n profi'r dystiolaeth ynghylch gwaith teg yng Nghymru ar hyn o bryd. Bydd ei argymhellion yn hysbysu ein meddylfryd o ran y ffordd orau o fwrw ymlaen â'n huchelgais i Gymru fod yn genedl gwaith teg.
Diolch. Mae Sefydliad Bevan wedi disgrifio'r economi "gig" yng Nghymru fel twyll triphlyg sy'n niweidio gweithwyr, yn cynyddu'r bil budd-daliadau ac yn amddifadu'r wladwriaeth o refeniw treth. Gwn fod gwaith o ansawdd da yn nod allweddol yn strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru, ac rwy'n croesawu yn arbennig sefydliad y Comisiwn Gwaith Teg. Sut bydd gwaith y comisiwn yn cyfrannu at fynd i'r afael ag effeithiau mwyaf niweidiol yr economi "gig"?
Ie, mae'r adroddiad yn un rhagorol. Mae'r comisiwn wedi bod yn ymgysylltu â nifer fawr ac amrywiaeth eang o sefydliadau ac unigolion yn rhan o'i waith casglu tystiolaeth, gan gynnwys Sefydliad Bevan y mae Vikki Howells wedi tynnu sylw ato yn y fan yna. Rydym ni'n cydnabod effeithiau niweidiol y defnydd amhriodol o gontractau dim oriau. I'r rhai sy'n ennill bywoliaeth drwy'r economi "gig", gall yr ansicrwydd, yr ansefydlogrwydd a'r diffyg diogelwch y maen nhw'n gweithio ar eu sail, greu pwysau trwm ar eu bywydau. Cafwyd adroddiad echrydus gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ddiweddar ynghylch yr hyn a all ddigwydd i iechyd meddwl pobl pan eu bod yn dioddef gan ddyled niweidiol, ac mae'r ymgyrch—rwy'n gobeithio bod pawb yn y Siambr wedi gweld, Llywydd—am fod yn ofalus ynghylch cost y Nadolig a dweud wrth bobl ble i fynd am gyngor ar ddyled os byddant yn canfod eu hunain mewn rhai o'r anawsterau hynny, yn un pwysig iawn wrth bobl nesáu at dymor y Nadolig pryd y gallent gael trafferthion i gael hanfodion bywyd hyd yn oed.
Rydym ni wedi gofyn i'r comisiwn ystyried yn ddifrifol iawn pob agwedd ar waith annheg a'r defnydd o gontractau dim oriau, yn enwedig am y rhesymau gwirioneddol hynny y gall yr anallu i gynllunio neu ddibynnu ar unrhyw incwm penodol arwain at oblygiadau difrifol iawn o ran iechyd meddwl a dyled a gallu rhywun i fyw ei fywyd fel y mae'n dymuno ei wneud. Rydym ni wedi gofyn i'r comisiwn adrodd ei argymhellion yng ngwanwyn y flwyddyn nesaf, ac rydym ni'n disgwyl i'r rheini lywio ein syniadau ynghylch sut yr ydym ni'n annog ac yn hyrwyddo'r agenda gwaith teg ledled Cymru gyfan.
Arweinydd y tŷ, rwyf i newydd glywed eich ateb, ond a allwch chi amlinellu beth yw'r berthynas waith rhwng y Comisiwn Gwaith Teg a chontract economaidd a galwadau i weithredu Llywodraeth Cymru?
Gallaf. Rydym ni wedi gofyn i'r Comisiwn Gwaith Teg gymryd holl strategaethau'r Llywodraeth i ystyriaeth yn eu gwaith, ond maen nhw'n gweithredu ar eu pennau eu hunain. Maen nhw'n casglu tystiolaeth ar hyn o bryd. Maen nhw'n cael eu cynorthwyo gan ysgrifenyddiaeth fach o Lywodraeth Cymru, ond rydym ni wedi gofyn iddyn nhw ystyried y sefyllfa yn gyffredinol ac i ddweud sut orau y gellir cyfuno'r sefyllfa honno gyda'n cyfres bresennol o flaenoriaethau a strategaethau, a'r hyn y mae angen i ni ei wneud er mwyn gwneud i'r jig-so hwnnw ffitio orau.