Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Ie, mae'r Aelod yn iawn: mae pethau da yn digwydd, ac fel yr wyf i wedi ei ddweud, rwyf i wedi darllen yn uchel rai o'r pethau da sy'n digwydd. Er enghraifft, darparwyd dros £14 miliwn i ddatblygu canolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn y Fflint, Blaenau Ffestiniog a Thywyn—mae'n ddrwg gen i, Ysbyty Coffa Tywyn; dylwn i fod wedi gwisgo fy sbectol, Llywydd—yn darparu amrywiaeth o gyfleusterau iechyd, gofal cymdeithasol a thrydydd sector integredig wedi'u cyd-leoli.
Bu cynnydd i ddisgwyliad oes ym mhob awdurdod lleol yn y gogledd rhwng 2001-03 a 2014-16. Er enghraifft, mae nifer y staff cyfwerth ag amser llawn a gyflogir yn uniongyrchol gan fwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cynyddu gan 5 y cant ers 2008, a chynyddodd nifer y meddygon a'r deintyddion ymgynghorol gan 17.1 y cant. Cynyddodd nifer y nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd gan 3.9 y cant. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos, ar ddiwedd mis Medi 2018, bod 6,291 o lwybrau cleifion dros 36 wythnos, sy'n ostyngiad o 1,000 neu 14 y cant o'i gymharu â mis Awst 2018, a gostyngiad o 2,691 neu 30 y cant o'i gymharu â mis Medi 2017. Felly, rydym ni'n symud i'r cyfeiriad cywir ac mae'r cymorth yn amlwg yn gwneud gwahaniaeth sylweddol.