1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 4 Rhagfyr 2018.
5. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o lwyddiannau'r gwasanaeth iechyd yng Ngogledd Cymru ers 2009? OAQ53064
Mae'r Prif Weinidog yn asesu perfformiad, llwyddiannau a heriau darparu gwasanaethau iechyd ledled Cymru yn barhaus. Yn y gogledd, rydym ni wedi gwneud buddsoddiad sylweddol i gyflawni gwelliannau ac rydym ni'n eglur ynghylch y gwaith pellach sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
Wel, gobeithio eich bod chi’n glir ynglŷn â’r hyn sydd angen ei wneud, oherwydd mae’r gwasanaeth mewn mesurau arbennig, onid yw e, ers beth, ryw dair blynedd a hanner erbyn hyn, o dan reolaeth uniongyrchol yr Ysgrifennydd Cabinet. Yn y cyfnod yna, rŷm ni wedi gweld sgandal Tawel Fan a’r gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd. Rŷm ni wedi gweld sgandal C. difficile, a nifer o bobl yn marw o’r cyflwr hwnnw yn ystod y cyfnod. Rŷm ni wedi gweld ysbytai cymunedol yn cau. Rŷm ni wedi gweld y gwasanaeth argyfwng ar ei luniau ar draws y gogledd. Rŷm ni wedi gweld argyfwng hefyd mewn gwasanaethau meddygon teulu, ac rŷm ni wedi gweld y Llywodraeth yn tindroi am rhy hir o lawer pan mae’n dod i hyfforddi rhagor o ddoctoriaid a nyrsys. Felly, gyda record fel yna, pam dylai pobl gogledd Cymru gael hyder yng ngallu’r Llywodraeth yma i gynllunio’r gwasanaeth y maen nhw'n ei haeddu?
Wel, o dan fesurau arbennig rydym ni wedi darparu buddsoddiad a chymorth sylweddol, sydd wedi arwain at gynnydd mewn nifer o feysydd, gan gynnwys dad-ddwysáu gwasanaethau mamolaeth fel pryder mesur arbennig ym mis Chwefror. Bu buddsoddiad parhaus i sicrhau gwell mynediad a gofal iechyd i bobl ar draws y gogledd. Mae'r rhain yn cynnwys, er enghraifft, £17.9 miliwn ar gyfer y SuRNICC a agorwyd ym mis Medi 2018, yn dilyn argymhelliad gan Goleg Brenhinol y Pediatregwyr ac Iechyd Plant y dylai fod un safle canolog ar gyfer gofal newyddenedigol dwys yn y gogledd, ac, er enghraifft hefyd, mae'r adran gofal brys ac argyfwng yn Ysbyty Gwynedd wedi cael £163 miliwn ar gyfer gwaith ailwampio sylweddol. Gwnaed nifer o fuddsoddiadau yn gyffredinol, ac rydym ni wedi parhau i gynorthwyo Betsi Cadwaladr wrth iddo ddod allan o fesurau arbennig. Rydym ni wedi gwneud yn siŵr bod y buddsoddiad yno, ac rydym ni wedi cynorthwyo'r bwrdd i sicrhau ein bod ni'n cynorthwyo'r bwrdd i ddarparu ar gyfer iechyd ei boblogaeth a darparu gofal yn nes at y cartref pan fo hynny'n bosibl.
Er gwaethaf blynyddoedd o rybuddion gan Bwyllgor Meddygol Lleol Gogledd Cymru, cafodd ymarfer cyffredinol yng Nghymru y ganran isaf o gyllideb y GIG o unrhyw ran o'r DU y llynedd. Dyna'r rheswm allweddol pam mae cymaint o feddygfeydd yn y gogledd wedi cau. Sut ewch chi i'r afael â'r bwlch hwnnw yn y gyfran o gyllid, yn hytrach na'r bwlch cyllid, ac arallgyfeirio darpariaeth i ddarparu gwasanaethau, gan ddod â phobl sydd angen gofal a chymorth a phobl sy'n darparu cymorth yn nes at ei gilydd, i ddarparu gofal cymdeithasol, emosiynol a meddygol i bobl ar y pwynt o angen, fel menter gydweithredol Quay to Well-being a arweinir gan Dr Anthony Downes yng Nghei Connah, a'r ganolfan cwmni mewn ymddiriedolaeth y Community Care Collaborative yn Wrecsam a arweinir gan Dr Karen Sankey?
Ie, mae'r Aelod yn iawn: mae pethau da yn digwydd, ac fel yr wyf i wedi ei ddweud, rwyf i wedi darllen yn uchel rai o'r pethau da sy'n digwydd. Er enghraifft, darparwyd dros £14 miliwn i ddatblygu canolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn y Fflint, Blaenau Ffestiniog a Thywyn—mae'n ddrwg gen i, Ysbyty Coffa Tywyn; dylwn i fod wedi gwisgo fy sbectol, Llywydd—yn darparu amrywiaeth o gyfleusterau iechyd, gofal cymdeithasol a thrydydd sector integredig wedi'u cyd-leoli.
Bu cynnydd i ddisgwyliad oes ym mhob awdurdod lleol yn y gogledd rhwng 2001-03 a 2014-16. Er enghraifft, mae nifer y staff cyfwerth ag amser llawn a gyflogir yn uniongyrchol gan fwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cynyddu gan 5 y cant ers 2008, a chynyddodd nifer y meddygon a'r deintyddion ymgynghorol gan 17.1 y cant. Cynyddodd nifer y nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd gan 3.9 y cant. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos, ar ddiwedd mis Medi 2018, bod 6,291 o lwybrau cleifion dros 36 wythnos, sy'n ostyngiad o 1,000 neu 14 y cant o'i gymharu â mis Awst 2018, a gostyngiad o 2,691 neu 30 y cant o'i gymharu â mis Medi 2017. Felly, rydym ni'n symud i'r cyfeiriad cywir ac mae'r cymorth yn amlwg yn gwneud gwahaniaeth sylweddol.