Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Ie, mae'r adroddiad yn un rhagorol. Mae'r comisiwn wedi bod yn ymgysylltu â nifer fawr ac amrywiaeth eang o sefydliadau ac unigolion yn rhan o'i waith casglu tystiolaeth, gan gynnwys Sefydliad Bevan y mae Vikki Howells wedi tynnu sylw ato yn y fan yna. Rydym ni'n cydnabod effeithiau niweidiol y defnydd amhriodol o gontractau dim oriau. I'r rhai sy'n ennill bywoliaeth drwy'r economi "gig", gall yr ansicrwydd, yr ansefydlogrwydd a'r diffyg diogelwch y maen nhw'n gweithio ar eu sail, greu pwysau trwm ar eu bywydau. Cafwyd adroddiad echrydus gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ddiweddar ynghylch yr hyn a all ddigwydd i iechyd meddwl pobl pan eu bod yn dioddef gan ddyled niweidiol, ac mae'r ymgyrch—rwy'n gobeithio bod pawb yn y Siambr wedi gweld, Llywydd—am fod yn ofalus ynghylch cost y Nadolig a dweud wrth bobl ble i fynd am gyngor ar ddyled os byddant yn canfod eu hunain mewn rhai o'r anawsterau hynny, yn un pwysig iawn wrth bobl nesáu at dymor y Nadolig pryd y gallent gael trafferthion i gael hanfodion bywyd hyd yn oed.
Rydym ni wedi gofyn i'r comisiwn ystyried yn ddifrifol iawn pob agwedd ar waith annheg a'r defnydd o gontractau dim oriau, yn enwedig am y rhesymau gwirioneddol hynny y gall yr anallu i gynllunio neu ddibynnu ar unrhyw incwm penodol arwain at oblygiadau difrifol iawn o ran iechyd meddwl a dyled a gallu rhywun i fyw ei fywyd fel y mae'n dymuno ei wneud. Rydym ni wedi gofyn i'r comisiwn adrodd ei argymhellion yng ngwanwyn y flwyddyn nesaf, ac rydym ni'n disgwyl i'r rheini lywio ein syniadau ynghylch sut yr ydym ni'n annog ac yn hyrwyddo'r agenda gwaith teg ledled Cymru gyfan.