Dyfodol Llywodraeth Leol yng Nghymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 4 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 2:18, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb hwnnw. Arweinydd y Tŷ, ym mis Mawrth, cynigiodd Llywodraeth Cymru dri dewis ar gyfer uno awdurdodau lleol. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet bryd hynny bod angen newid radical. Eto i gyd, mae wedi methu â bwrw ymlaen gyda hyn oherwydd pwysau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Arweinydd y Tŷ, a ydych chi'n credu bod angen newid radical, ac os felly, pryd?