1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 4 Rhagfyr 2018.
9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddyfodol llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ53027
Gwnaf. Amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus y camau nesaf ar gyfer cryfhau llywodraeth leol yn ei ddatganiad llafar ar 17 Gorffennaf.
Diolch am yr ateb hwnnw. Arweinydd y Tŷ, ym mis Mawrth, cynigiodd Llywodraeth Cymru dri dewis ar gyfer uno awdurdodau lleol. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet bryd hynny bod angen newid radical. Eto i gyd, mae wedi methu â bwrw ymlaen gyda hyn oherwydd pwysau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Arweinydd y Tŷ, a ydych chi'n credu bod angen newid radical, ac os felly, pryd?
Rwy'n credu ei bod hi'n amlwg bod awydd ymhlith Llywodraeth Leol i weithio'n dda gyda'i gilydd a chydweithredu. Mae Aelodau o bob rhan o'r Siambr heddiw wedi crybwyll pethau lle mae cydweithredu wedi gweithio'n hynod o dda. Yn wahanol i Loegr, rydym ni wedi amddiffyn llywodraeth leol yng Nghymru rhag y gwaethaf o'r cyni y mae Llywodraeth y DU yn ei orfodi, ac rydym wedi sicrhau y gellir parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol. Mae ein hawdurdodau lleol yn cydweithio'n dda gyda'i gilydd ac fe ddylen nhw fod yn falch iawn o'u gallu i wrthsefyll y cyni didrugaredd.
Diolch i arweinydd y tŷ.