Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 4 Rhagfyr 2018.
Gwnaf. Rydym ni wedi canolbwyntio ar y GIG fel blaenoriaeth ar adeg o gyni cyllidol sy'n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus. Canfuwyd ansawdd wrth wraidd system iechyd Cymru yn adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, 'Reviews of Health Care Quality: United Kingdom 2016', ac amlygwyd ein bod ni'n blaenoriaethu gofal o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y claf.