2. Dadl ar y Cytundeb Ymadael â'r UE a'r Datganiad Gwleidyddol

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 4 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:20, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Er mwyn osgoi amheuaeth, gadewch imi ddweud ar y dechrau fod y cytundeb sydd ger ein bron yn annerbyniol i Lywodraeth Cymru, ac yn un y credwn y dylid ei wrthod. Rwy'n gobeithio y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno â'r sefyllfa honno, fel nad oes unrhyw amheuaeth ymysg y rhai sy'n gyfrifol yn y pen draw am ddyfarnu ar y ddwy elfen o'r cytundeb y mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi dod iddo, y cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol, ynghylch barn y Cynulliad hwn.

Llywydd, mae Senedd y DU ar fin cychwyn ar ei dadl pum diwrnod. Amserwyd ein trafodaethau y prynhawn yma'n fwriadol i sicrhau bod ystyriaeth y Cynulliad yn gallu dylanwadu ar bleidlais ystyrlon a fydd yn terfynu'r ddadl honno. Hefyd, mae angen i'r Cynulliad hwn ddylanwadu ar yr hyn sy'n digwydd os bydd Tŷ'r Cyffredin, fel yr ymddengys yn anochel bellach, yn gwrthod cytundeb y Prif Weinidog. Mae rhan olaf cynnig y Llywodraeth sydd gerbron y Cynulliad yn edrych tua'r dyfodol ac yn rhestru'r dewisiadau y credwn ni y dylid eu hystyried os mai dyna fydd yn digwydd.

Llywydd, rwyf eisiau bod yn glir ar y dechrau hefyd y byddai'r cyngor a roddodd Llywodraeth Cymru i bobl Cymru yn y cyfnod cyn refferendwm 2016 yr un fath os gofynnwyd inni roi cyngor heddiw. Ar sail yr holl dystiolaeth economaidd, byddai Cymru yn well yn aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd, ac nid yw ein ffyniant wedi ymwreiddio mor ddwfn nac wedi ei hannu mor eang fel y gallwn ni wirfoddoli i niweidio'n hunain yn economaidd. Eto i gyd, y ffaith yw bod Cymru a'r Deyrnas Unedig fel uned gyfan wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. A, Llywydd, ni waeth pa mor gryf yr ydym ni'n teimlo fel unigolion ar ddwy ochr y ddadl Brexit, nid hynny yw canolbwynt yr ystyriaeth y prynhawn yma. Yn hytrach, gofynnwyd inni ddod i'n casgliad ar y cytundeb ymadael a'r datganiad gwleidyddol.

Dechreuaf gyda'r cytundeb ymadael, oherwydd mae'n amlwg iawn mai dyma'r mwyaf datblygedig o'r ddwy elfen, a hefyd yr agosaf o'r ddwy at safbwynt Llywodraeth Cymru. Yn wir, os cyferbynnaf y cytundeb ymadael â chynnwys 'Diogelu Dyfodol Cymru', y cytunwyd arno ar y cyd â Phlaid Cymru ym mis Ionawr 2017, ac araith Lancaster House Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn yr un mis, mae'n drawiadol faint yn union yn nes yw'r cytundeb at ein safbwynt ni nag un Mrs May. Mae'n cynnwys cyfres o amddiffyniadau ar gyfer hawliau dinasyddiaeth. Mae'n darparu ar gyfer cyfnod pontio, sydd mor hanfodol er mwyn osgoi dryswch aruthrol i'n heconomi, ac yn caniatáu ar gyfer ymestyn y cyfnod hwnnw os oes angen. Mae'n cynnwys ymrwymiad i dalu'n biliau. Mae'n cynnig alinio rheoleiddio ar gyfer nwyddau a chynnyrch amaethyddol. Mae hyd yn oed, wedi ei gladdu yn nyfnderoedd yr iaith ddryslyd, yn darparu ar gyfer undeb tollau. Ond, Llywydd, rhan o'r rheswm pam na allwn ni gefnogi'r cytundeb ymadael y prynhawn yma yw oherwydd yr union ddryswch hwnnw, oherwydd bod y cytundeb yn dangos, hyd yn oed ar y funud olaf hon, fod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn parhau'n amharod i egluro'n fanwl realiti ein sefyllfa. Yn hytrach, mae'n teithio o stiwdio deledu i stiwdio deledu yn ailadrodd mantras sy'n argyhoeddi neb ac, yn hytrach, yn llwyddo i berswadio pobl o safbwyntiau hollol gyferbyniol eu bod nhw yn unedig o leiaf yn hyn o beth—na wnân nhw gefnogi'r Prif Weinidog.

Felly, mae methiant y cytundeb ymadael yn wleidyddol yn ogystal ag yn ymarferol, ond mae gwendidau ymarferol gwirioneddol hefyd. Dyma dair ffordd yn unig y bydd y cytundeb ymadael yn methu â chyflawni canlyniad y gallai Llywodraeth Cymru ei gefnogi. Yn gyntaf, o ran cynifer o'r materion chwarae teg, disgrifiad technocratig o bethau sy'n wirioneddol bwysig i ddinasyddion Cymru, megis safonau amgylcheddol a hawliau gweithwyr, mae'r DU yn ymrwymedig dim ond i beidio â'u gwanhau—nid, mewn geiriau eraill, i geisio cael cyfatebiaeth i safonau esblygol Ewropeaidd. Rydym ni'n credu'n gryf, ac wedi dadlau'n gyson, os yw'r UE yn symud ymlaen mewn materion o'r fath, y dylai'r Deyrnas Unedig wneud hynny hefyd. Ni allwn ni ac ni fyddwn ni yn cefnogi unrhyw beth llai.

Yn ail, nid yw'r cytundeb yn ymdrin â materion y sector gwasanaethau, y rhan fwyaf o'n heconomi, a'r rhan y mae gan y DU warged clir mewn masnach gyda'r UE. Mae'n parhau i ddatgan bod y sector gwasanaethau ar wahân i nwyddau, gyda dim sicrwydd na fydd mynediad i farchnad sengl yr UE wedi ei gyfyngu'n ddifrifol. Mae'r cytundeb ymadael yn parhau i wahaniaethu mewn modd anymarferol rhwng nwyddau a gwasanaethau, a fydd yn niweidio busnesau Cymru, ac ni allwn ni ei gefnogi.

Ac yn drydydd, ac yn ymarferol, Llywydd, mae'r posibilrwydd o ffin ym Môr Iwerddon a fyddai'n cael ei rheoleiddio, gyda chanlyniadau anhysbys i berthynas economaidd Prydain Fawr gydag Ynys Iwerddon, yn parhau i fod yn faen tramgwydd i ni. Nawr, rydym ni'n derbyn y flaenoriaeth absoliwt o sicrhau nad yw ffin galed yn dychwelyd i Iwerddon, ond mae'r trefniadau wrth gefn, fel y maen nhw wedi eu llunio, yn parhau i beri pryder ac fe allan nhw fod yn niweidiol i Gymru.

Llywydd, gellid bod wedi lleddfu ein pryderon am y trefniadau wrth gefn yn gyfan gwbl drwy'r datganiad gwleidyddol y trof ato nawr. Gallai'r datganiad gwleidyddol fod wedi cynnwys ymrwymiad cadarn gan yr UE a'r DU i gael cyfuniad parhaol o undeb tollau a chyfranogiad llawn yn y farchnad sengl. Byddai hynny'n sicrhau na fyddai angen unrhyw rwystrau newydd rhwng unrhyw ran o'r DU a 27 aelod yr UE, sef yr ateb, wrth gwrs, a ddatblygwyd yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Yn lle hynny, mae'r datganiad gwleidyddol yn amlwg yn methu â chynnwys ymrwymiadau cadarn o'r ddwy ochr i ddatblygu perthynas ar gyfer y dyfodol a fydd yn rhoi'r parhad mwyaf posibl i'n cysylltiadau economaidd gyda'r UE, yn gydnaws â pheidio â bod mwyach yn rhan o'i adeiladaeth wleidyddol. Yn hytrach, mae'n gybolfa o ddogfen a luniwyd ar gefn amlen sy'n ceisio efelychu peth o'r iaith a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU yn ei Phapur Gwyn, ond heb symud rhithyn o safbwynt yr UE na ellwch chi gael troed i mewn a throed allan o'r farchnad sengl.

Mae Llywodraeth y DU wedi gorfod cyfaddef nad oedd yn gallu darbwyllo'r UE i wneud ymrwymiadau i fasnachu rhwydd, ac mae'r ffaith werthfawr honno'n golygu ei bod yn anochel bod y datganiad gwleidyddol yn ein gadael gyda llawer llai o fynediad i farchnadoedd o'i gymharu â'r hyn y mae busnesau Cymru yn ei fwynhau heddiw.